Pam bod y Canghellor yn torri tollau ar farmalêd?
Mae marmalêd, gercynau a melysion ymhlith mwy na 100 o gynhyrchion y mae’r Canghellor, John Healey, yn dileu tollau mewnforio arnyn nhw fel rhan o ymgais i leihau costau byw.
Daw’r cyhoeddiad cyn y Gyllideb ddydd Mercher, ac mae’n rhan o becyn o fesurau y mae Llywodraeth y DU yn dweud fydd yn gadael ychydig mwy o arian ym mhocedi pobl.
Ond sut mae torri toll ar farmalêd yn helpu, a faint o wahaniaeth fydd hyn yn ei wneud mewn gwirionedd?
Beth yw toll mewnforio?
Treth ar nwyddau sy’n cael eu cludo i mewn i wlad yw toll mewnforio.
Y busnes sy’n mewnforio’r cynnyrch sy’n talu’r doll, ond fe all y gost ychwanegol gael ei throsglwyddo i’r cwsmer drwy bris uwch yn y siop.
Y syniad felly yw bod dileu’r doll yn lleihau costau’r busnes, gan greu cyfle i ostwng y pris i’r siopwr.
Ond dyw hynny ddim yn gwarantu y bydd pris pob cynnyrch yn gostwng.
Bydd faint o’r arbediad sy’n cyrraedd cwsmeriaid yn dibynnu ar benderfyniadau busnesau ac ar gostau eraill, fel cost cynhyrchu a chludo’r nwyddau yn y lle cynta’.
Pam marmalêd?
Mae marmalêd yn un o’r cynhyrchion sydd ar restr y llywodraeth o fwydydd poblogaidd fydd yn elwa ar y newid.
Bydd yn atal toll o 20%, ynghyd â thâl ychwanegol o £19 am bob 100kg sy’n cael ei fewnforio.
Ond nid yw hynny’n golygu y bydd jar o farmalêd ar silff yr archfarchnad yn costio 20% yn llai. Dim ond un elfen o’r pris terfynol yw’r doll.
Mae’r rhestr hefyd yn cynnwys garlleg, gercynau, wafflau wedi’u gorchuddio â siocled, melysion wedi’u berwi, taffi a charamel.
Bydd rhai diodydd wedi’u gwneud o blanhigion, gan gynnwys soia a chnau, yn elwa hefyd, yn ogystal â losin gwddf a pheswch.
Faint allai pobl ei arbed?
Yn ôl Llywodraeth y DU, gallai aelwydydd arbed hyd at £21 y flwyddyn.
Mae’r ffigur hwnnw’n cynnwys arbedion o atal tollau a gyflwynwyd eisoes ym mis Mehefin ar gynhyrchion fel pasta, sudd ffrwythau a thiwna.
Mae hynny’n cyfateb i tua 40c yr wythnos. Bydd yr arbediad go iawn yn dibynnu ar beth mae aelwyd yn ei brynu ac i ba raddau y bydd busnesau’n gostwng eu prisiau.
Pwy sy'n beirniadu?
Mae’r Ceidwadwyr yn dadlau bod maint yr arbedion yn bitw o’i gymharu â’r pwysau ariannol ar deuluoedd.
Dywedodd Canghellor yr Wrthblaid, Andrew Griffith, fod siopwyr yn wynebu costau cynyddol a bod cynnig “gercynau rhatach” yn “sarhad ar deuluoedd”.
Mae’r llywodraeth ei hun yn disgrifio’r mesurau fel rhan fach o’i hymateb i gostau byw. Bydd rhaid disgwyl am y Gyllideb ddydd Mercher i weld pa gamau pellach y mae’r Canghellor yn bwriadu eu cymryd.
