Y Pab wedi cael llawdriniaeth ar ôl diagnosis o ganser yr ysgyfaint
Mae’r Pab wedi cael llawdriniaeth i dynnu rhan o’i ysgyfaint ar ôl iddo ddatgelu bod ganddo ganser yr ysgyfaint.
Fe gafodd y Pab Leo XIV, sy’n 71 oed, y llawdriniaeth ddydd Mawrth yn Ysbyty Gemelli yn Rhufain.
Mewn bwletin meddygol, dywedodd y Fatican: “Roedd y llawdriniaeth yn llwyddiannus ac ni fu unrhyw gymhlethdodau.
“Ar ôl y llawdriniaeth, fe ddeffrodd y Pab fel arfer ac ar ôl cyfnod byr o arsylwi, fe ddychwelodd i’w ystafell.”
Cafodd y canser ei ddarganfod yn dilyn profion arferol ac mae disgwyl i’r Pab aros yn yr ysbyty am tua wythnos.
Fe ymgasglodd torf y tu allan i’r ysbyty am oriau er mwyn dymuno’r gorau iddo.
Mae ffynhonnell yn y Fatican wedi dweud wrth yr asiantaeth newyddion Agence France-Presse y bydd profion pellach yn cael eu cynnal er mwyn gweld a yw’r canser wedi lledaenu.
Ddydd Sul, fe ddatgelodd Leo XIV fod ganddo ganser wrth roi bendith draddodiadol yr Angelus.
Dywedodd o falconi yn Sgwâr San Pedr fod y tyfiant wedi cael ei ddarganfod “yn gynnar iawn”, ond bod meddygon wedi ei gynghori i gael llawdriniaeth i’w dynnu.
Llun: PA