Orbán yn cyfaddef ei fod wedi colli etholiad cyffredinol Hwngari

Peter Magyar

Mae cyfnod Viktor Orbán mewn grym yn Hwngari wedi dod i ben wedi i’w blaid golli’r etholiad cyffredinol yno, ar ôl 16 mlynedd mewn grym.

Cafodd Orbán, 62, sydd wedi llywodraethu Hwngari ers 2010, a’i blaid Fidesz, eu trechu gan Péter Magyar (uchod), 45, a’i blaid ef, Tisza.

Fe wnaeth Orbán gyfaddef ei fod wedi colli nos Sul, gan ddweud bod y canlyniad bellach yn “glir”. Mae o wedi bod yn llywodraethu Hwngari mewn ffordd gynyddol awdurdodaidd ers 2010.

Roedd yn ffefryn ymhlith ceidwadwyr Americanaidd sy’n agos at Donald Trump, yn gynghreiriad i’r Kremlin, ac yn ddraenen yn ystlys arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel.

Wythnos diwethaf fe wnaeth Is-lywydd America, JD Vance ymweld â Hwngari i ymgyrchu dros Orbán.

Gyda mwy na 96% o’r pleidleisiau wedi’u cyfrif, mae disgwyl i blaid Magyar ennill 138 o’r 199 sedd yn y senedd.

Mae hynny bum sedd yn fwy na’r 133 sydd eu hangen i sicrhau mwyafrif cyfansoddiadol o ddwy ran o dair. Mae disgwyl i blaid Orbán ennill 55 sedd.

“Heddiw rydyn ni wedi cyflawni gwyrth, ac mae Hwngari wedi ysgrifennu hanes,” meddai Magyar, sydd ar y canol-dde yn wleidyddol, wrth annerch miloedd o gefnogwyr.

“Heddiw, fe orchfygodd y gwir y celwyddau. Heddiw, nid gofyn beth all y wlad ei wneud drostyn nhw wnaeth yr Hwngariaid, ond beth allan nhw ei wneud dros y wlad.”

Dywedodd Magyar hefyd fod y rhagolygon o fwyafrif cryf “yn caniatáu i ni gael trosglwyddiad esmwyth a heddychlon”.

Yn ei araith yn cyfaddef ei fod wedi colli, diolchodd Orbán i’r pleidleiswyr a gefnogodd Fidesz, a dywedodd fod angen i’w blaid ganolbwyntio ar ailadeiladu eu cymunedau.

“Dydyn ni byth yn ildio,” meddai.

Llun: Reuters/Leonhard Foeger.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.