Noel Mooney am i'r Cae Ras 'fod yn gadarnle' i dîm pêl-droed Cymru

Noel Mooney am i'r Cae Ras 'fod yn gadarnle' i dîm pêl-droed Cymru

Mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gobeithio y bydd y Cae Ras yn dod yn gadarnle arall i dîm pêl-droed Cymru.

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd Noel Mooney bod stadiwm Dinas Caerdydd wedi bod yn gaer i'r cefnogwyr ac ei fod yn gobeithio y bydd y Cae Ras yn cael yr un effaith.

Ar hyn o bryd, mae gwaith yn cael ei gynnal i adeiladu eisteddle newydd ar y Cae Ras.

Y bwriad yw ychwanegu tua 7,500 o seddi newydd, gan olygu bod lle i 18,000 o gefnogwyr yn y stadiwm.

Dyw tîm dynion Cymru heb chwarae yn Wrecsam ers 2023, pan enillodd y crysau cochion 4-0 yn erbyn Gibraltar mewn gêm gyfeillgar.

Dywedodd Noel Mooney mai Wrecsam yw "cartref pêl-droed Cymru" a'i fod yn naturiol i'r tîm cenedlaethol chwarae rhai o'u gemau yno.

“Yn amlwg, wrth i'r Cae Ras ddatblygu, hoffwn chwarae rhai gemau yng ngogledd Cymru, yn Wrecsam," meddai.

"Wrth gwrs byddwn yn gwneud hynny, cartref pêl-droed Cymru."

Ychwanegodd fod chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd o "fantais enfawr" i Gymru yn ogystal.

“Dwi'n credu bod Stadiwm Dinas Caerdydd wedi rhoi mantais enfawr, unigryw i ni.

"Mae'r ffaith bod y stadiwm mor glos, y ffordd mae popeth wedi ei osod yn y stadiwm, Stadiwm Dinas Caerdydd yw ein cartref."

Image
Sam Vokes sgoriodd yr unig gôl y tro diwethaf i Gymru chwarae yn y Stadiwm Principality
Sam Vokes sgoriodd unig gôl Cymru y tro diwethaf i'r tîm cenedlaethol chwarae yn Stadiwm Principality (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Stadiwm Principality

Cymru yw un o'r gwledydd sydd yn cynnal EURO 2028, gyda'r gêm agoriadol yn cael ei chwarae yn y Stadiwm Principality.

Mae rhai cefnogwyr wedi galw ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru i gynnal rhai o gemau'r tîm cenedlaethol yn y stadiwm cyn y gystadleuaeth.

Dyw Cymru heb chwarae yn y Principality ers 2018, gan chwarae dwy gêm yn unig yno ers 2010.

Colli 4-1 yn erbyn Sbaen oedd y canlyniad yn 2018, ond mae Noel Mooney yn awyddus i'r garfan chwarae yno cyn i'r Euros ddod i Gymru.

"Mae'n bwysig, dwi'n credu, wrth i ni agosáu at Euro 2028, nad ydyn ni ddim yn ddieithriaid i'r stadiwm," meddai.

"Rydym eisiau chwarae rhyw fath o gemau, efallai gemau cyfeillgar ac yn sicr sesiynau ymarfer ac ati yn y stadiwm, fel ein bod ni'n gyfarwydd â chwarae yno.

"Mae'n gyfle i ni efelychu'r hyn a ddigwyddodd yn 2016.

"Mae gennym ni garfan gref, ac fe fydd tîm da iawn gyda ni yn mynd i mewn i Euro 2028. Bydd rhaid i ni gymhwyso gyntaf... ond mae'n debygol iawn mai ni fydd yn cychwyn y gystadleuaeth yng Nghaerdydd."

Ychwanegodd ei fod yn bwysig i barhau i chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd, sydd yn "gaer" i Gymru.

"Dwi'n credu ei fod yn bwysig ein bod ni'n parhau gyda'n fantais unigryw o ddefnyddio Stadiwm Dinas Caerdydd fel ein caer, mae'n anodd iawn ennill yn ein herbyn ni yn y stadiwm hwnnw," meddai.

"A gobeithio y bydd y sefyllfa'n debyg wrth i ni chwarae'n amlach yn Wrecsam, ein bod ni'n anodd ein curo, ei fod yn gadarnle."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.