Nigel Farage yn curo is-etholiad Clacton, ond yn gwrthod ymddangos
Mae Nigel Farage, arweinydd plaid Reform UK, wedi adennill ei sedd yn Senedd y DU mewn is-etholiad gafodd ei ysgogi gan ei ymddiswyddiad rai wythnosau'n ôl.
Doedd y gwleidydd ddim yn bresennol yn y cyfrif yn etholaeth Clacton wrth i'r canlyniad gael ei gyhoeddi yn gynnar fore Gwener, gyda'i blaid yn dweud bod "bygythiad credadwy" i'w ddiogelwch - honiad sydd wedi cael ei wadu gan Heddlu Essex.
Camodd Mr Farage o'r neilltu yn ei sedd yn de-ddwyrain Lloegr yn sgil craffu cynyddol ar ei drefniadau ariannol, gan gynnwys ymchwiliad seneddol.
Dywedodd ar y pryd ei fod am i'r bobl gael cyfle i leisio'u barn amdano.
Roedd 34 o ymgeiswyr yn yr is-etholiad - mwy nag unrhyw bleidlais debyg yn hanes y DU - ond roedd prif bleidiau San Steffan, gan gynnwys Llafur, y Ceidwadwyr a'r Gwyrddion, wedi gwrthod sefyll, gan honni mai "stynt wleidyddol" oedd ymddiswyddiad yr arweinydd asgell dde.
Yn y pendraw, cipiodd Mr Farage 22,239 o bleidleisiau yn yr etholiad anghyffredin, gan orffen ymhell o flaen yr ymgeisydd dychanol Count Binface, a ddaeth yn ail gyda 9,455 o bleidleisiau.
Cafodd gweddill yr ymgeiswyr - 32 ohonyn nhw i gyd - lai na 500 o bleideisiau yr un.
Pleidleisiodd dros 44% o etholwyr yr ardal, sydd wedi ei lleoli ar arfordir Essex, ac sy'n cael ei hystyried yn un o gadarnleoedd Reform.
'Bygythiad' i Farage?
Cyn i'r canlyniad gael ei gyhoeddi, dywedodd Mr Farage mewn digwyddiad mewn rhan arall o'r etholaeth na fydd yn mynd i'r cyfrif yn nhref Clacton-on-Sea gan fod yr heddlu wedi ei hysbysu am ymgyrch "i darfu a thanseilio'r canlyniad" yng nghanolfan hamdden y dref.
Dywedodd y blaid yn ddiweddarach bod "Heddlu Essex wedi cynghori Nigel i beidio mynd i'r cyfrif heno yn sgil bygythiad credadwy yn ei erbyn."
Ond yn ôl sawl ffynhonnell newyddion, mae'r heddlu'n gwadu eu bod wedi dweud wrth Mr Farage i gadw draw.
Dywedodd llefarydd ar ran y llu: "Mae gennym ni ymgyrch blismona gymesur a chadarn i sicrhau diogelwch pawb sy'n cymryd rhan yn y cyfrif."
Wrth annerch ei gefnogwyr cyn y canlyniad, dywedodd Mr Farage ei fod wedi ennill yn "eithaf pendant" a bod y canlyniad, ynghanol ton wres chwilboeth yn yr ardal, yn yn arwydd o "gefnogaeth aruthrol" iddo.
Ond dydy'r canlyniad ddim yn debygol o dawelu'r pryderon sydd wedi eu codi gan y wasg a phleidiau eraill ynghylch trefniadau ariannol Mr Farage, gan gynnwys taliad o £5m gan y biliwnydd crypto Christopher Harborne, sy'n gefnogwr mawr i Reform.
Methodd Mr Farage â datgan y taliad £5m pan ddaeth yn AS yn 2024 a bydd y Comisiynydd Safonau Seneddol Daniel Greenberg yn ailgydio yn ei ymchwiliad i'r mater pan fydd y gwleidydd yn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin.
Bu craffu hefyd ar ei gysylltiadau â'r dyn busnes George Cottrell, a gafodd ei garcharu am dwyll yn yr UDA yn 2017.
Prif lun: PA