Nifer wedi marw ar ôl i ddaeargryn nerthol daro de Japan
Mae daeargryn nerthol wedi difrodi ffyrdd ac adeiladau mewn dinas ar un o brif ynysoedd Japan, gydag adroddiadau fod nifer o bobl wedi marw.
Fe gafodd ynys Kyushu, yn ne orllewin y wlad, ei tharo gan ddaeargryn cryfder 7.1 ar y raddfa richter am 16.27 amser lleol (07.27 amser y DU) ddydd Mawrth.
Mae gwasanaeth tân y wlad yn dweud fod nifer o bobl ar goll mewn canolfan siopa yn ninas Kumamoto, gyda thimau achub yn cynnal ymdrechion i chwilio am unigolion ymysg gweddillion yr adeilad.
Mae’r cwmni darlledu NHK yn adrodd fod 20 a 30 yn sownd yn yr adeilad wedi i’r ail lawr gwympo.
Mae pobl ar goll mewn ffatri bapur yn ogystal wedi i simnai ddisgyn.
Mae prif weinidog y wlad, Sanae Takaichi wedi sefydlu pencadlys ymateb i argyfwng trychineb yn dilyn y daeargryn, gyda 3,600 aelod o'r gwasanaethau brys yn rhan o’r ymdrechion i achub pobl.
Mae’r awdurdodau hefyd wedi rhybuddio'r cyhoedd am ddaeargrynfeydd dilynol, wedi i dros 200 gael eu lladd ar yr ynys 10 mlynedd yn ôl wedi ail ddaeargryn, a oedd yn fwy pwerus na’r un cyntaf.
Pedair prif ynys sydd yn ffurfio Japan, gydag ynys Kyushu yr ail fwyaf yn y wlad.
Llun o X/Asiantaeth Heddlu Cenedlaethol Japan, yn dangos timau achub yng nghanolfan siopa Aeon yn Kumamoto