Y nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg ar gofnod yng Nghaerdydd
Mae'r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg ar gofnod yn byw yng Nghaerdydd, yn ôl adroddiad newydd.
Mae’r adroddiad, a gafodd ei gyflwyno mewn cyfarfod llawn o Gyngor Caerdydd, yn dangos bod canran trigolion y ddinas sy’n gallu siarad Cymraeg wedi cynyddu o 23.8% ym mis Mehefin 2023 i 26.4% ym mis Rhagfyr 2025.
Mae hynny’n cyfateb i tua 96,800 o bobl.
Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Chris Weaver, mai dyma’r “ffigur uchaf bellach ar gyfer unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru”.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod 674 o ddisgyblion wedi cael lleoedd mewn dosbarthiadau Derbyn mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ar gyfer mis Medi 2025.
Roedd hynny’n cynrychioli 19.5% o’r holl blant a ddechreuodd yn nosbarthiadau Derbyn ledled y ddinas.
'Rhagori' ar dargedau
Dywedodd y Cynghorydd Weaver: “Mae Cyngor Caerdydd nid yn unig wedi cyrraedd nifer o’r targedau a osodwyd yn y strategaeth Gymraeg bum mlynedd, ond wedi rhagori arnynt flwyddyn yn gynnar.
“Mae mwy o siaradwyr Cymraeg nag erioed yng Nghaerdydd erbyn hyn.”
Dywedodd y Cynghorydd Bethan Proctor fod yr iaith Gymraeg yn gyswllt â hanes, llenyddiaeth, traddodiadau a bywyd cymunedol Cymru.
“Pan fydd y Gymraeg yn ffynnu, mae ein diwylliant, ein hyder a’n hunaniaeth unigryw fel cenedl yn ffynnu hefyd,” meddai.
Dywedodd y Cynghorydd Proctor, sy’n aelod cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol, cydlyniant a digidol, fod y Gymraeg hefyd yn bwysig i’r sector twristiaeth yng Nghaerdydd.
“Mae’r iaith yn atyniad mawr i ymwelwyr ac yn helpu i greu ymdeimlad unigryw o le y mae pobl yn dod i Gymru i’w brofi,” meddai.
Ysgolion
Er i’r adroddiad gael ei groesawu gan gynghorwyr ar draws y siambr, fe wnaeth rhai aelodau o grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol gwestiynu a oes digon o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y ddinas.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Taylor: “Mae’n rhaid i’r cyngor fod yn llawer mwy rhagweithiol wrth ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg.
“Mae’n rhaid i ni hefyd barhau â’r gwaith trochi mewn ysgolion cyfrwng Saesneg er mwyn eu symud ymlaen ar hyd y continwwm ieithyddol.”