Culfor Hormuz ar gau eto meddai Iran
Mae Iran wedi dweud eu bod nhw wedi cau Culfor Hormuz unwaith eto oherwydd fod blocâd Donald Trump ar borthladdoedd y wlad yn parhau.
Dywedodd Cyngor Diogelwch Cenedlaethol Goruchaf Iran "bod y gelyn yn amharu ar daith llongau a bod Iran yn ystyried hynny fel cam i dorri'r cadoediad".
Mewn neges ar Truth Social fore Sadwrn, dywedodd Donald Trump bod Culfor Hormuz “ar agor ar gyfer busnes” ond yn pwysleisio bod blocâd America yn dal mewn grym yn y rhanbarth.
“Bydd y blocâd yn parhau yn llwyr ac yn llawn gan ei fod yn ymwneud ag Iran yn unig, ac fe fydd yn parhau tan fod y trafodaethau gydag Iran wedi eu cwblhau 100%," meddai.
Dywedodd Bagher Ghalibaf, llefarydd ar ran Llywodraeth Iran a’r dyn sydd wedi arwain y sgyrsiau gyda America ar ran y wlad, bod Trump wedi gwneud honiadau ffug am ennill y rhyfel.
“Wnaethon nhw ddim ennill y rhyfel, ac yn sicr ni fyddan nhw'n cyrraedd unman mewn trafodaethau chwaith gyda'r celwyddau hyn,” meddai ar blatfform X.
Ychwanegodd na fyddai Culfor Hormuz "yn parhau ar agor” os yw “blocâd [America] yn parhau".
Daw ei sylwadau ar ôl datganiad ar X gan Ysgrifennydd Tramor Iran, Abbas Araghchi, lle dywedodd bod modd i longau masnach deithio drwy Gulfor Hormuz “am weddill y cadoediad".
Mae data yn dangos fod llongau wedi teithio trwy Gulfor Hormuz fore Sadwrn.
Yn ôl gwefan MarineTraffic mae llongau gan gynnwys rhai sydd wedi'u creu i gludo olew yn teithio yno.
Mae Trump wedi dweud y bydd trafodaethau rhwng Iran ac America yn parhau dros y penwythnos.
Roedd y ddwy wlad wedi cytuno ar gadoediad am bythefnos ar 8 Ebrill.
Ers hynny mae'r gwledydd wedi bod yn cynnal trafodaethau yn Islamabad, ac mae Trump yn honni bod llawer o'r pwyntiau trafod "wedi'u cytuno" erbyn hyn.
"Dylai'r broses hon dod i ben yn gyflym iawn gan fod rhan fwyaf o'r pwyntiau trafod eisoes wedi'u cytuno," meddai.
Mae disgwyl i'r cadoediad rhwng Iran ac America ddod i ben ar 22 Ebrill.