Ni ddylai plant dan bump oed fod ar sgrin am fwy nag awr y dydd, yn ôl cyngor newydd
Ni ddylai plant dan bump oed fod ar sgrin am fwy nag awr y dydd, yn ôl cyngor newydd gan Lywodraeth y DU.
Mae'r cyngor gan Lywodraeth y DU hefyd yn dweud na ddylai plant dan ddwy oed fod yn gwylio sgriniau ar eu pen eu hunain.
Dyma'r tro cyntaf i gyngor sy'n seiliedig ar dystiolaeth gael ei gyhoeddi gan y llywodraeth, ond bydd yn cael ei adolygu wrth i fwy o dystiolaeth ddod i'r amlwg.
Wrth gyhoeddi'r cyngor, dywedodd Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, na fyddai rhieni'n cael eu gadael i frwydro yn erbyn sgriniau ar eu pen eu hunain.
Mae'n dweud y byddai'r canllawiau newydd yn helpu teuluoedd i gadw plant yn ddiogel a sicrhau eu bod yn meithrin arferion iach gyda sgriniau.
"Gall bod yn rhiant mewn byd digidol deimlo'n ddi-baid," meddai. "Mae sgriniau ym mhobman, ac mae'r cyngor yn aml yn gwrthdaro.
"Ni fydd fy llywodraeth yn gadael rhieni i wynebu'r frwydr hon ar eu pen eu hunain."
Bydd y canllawiau i rieni ar amser sgrin ar gyfer plant dwy i bump oed yn eu cynghori i "geisio ei gadw i awr y dydd. Llai os yn bosibl."
O ran amser sgrin i blant rhwng dwy a phump oed, mae’r llywodraeth yn annog teuluoedd i osgoi fideos cyflym fel y rhai sy'n ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol, a theganau sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial.
Dylai amser gwely ac amser bwyd fod yn rhydd o sgriniau, gyda theuluoedd yn cael eu cynghori i roi cynnig ar gerddoriaeth, gemau bwrdd, straeon amser gwely, a lliwio yn lle hynny.
Mae amser sgrin gyda rhiant sy'n cynnwys siarad a gofyn cwestiynau am y cynnwys hefyd yn well ar gyfer datblygiad plentyn na gadael iddyn nhw ddefnyddio sgriniau ar eu pen eu hunain, yn ôl y canllawiau.
Mae'r gweithgareddau hynny yn cynnwys galwadau fideo i deulu neu ffrindiau, neu edrych trwy luniau gyda'i gilydd.
'Bydd rhai yn gwrthwynebu'
Fe aeth Prif Weinidog y DU ymlaen i ddweud ei fod yn deall y bydd rhai yn gwrthwynebu'r cyngor.
"Bydd rhai a fydd yn gwrthwynebu gwneud hyn, ond boed yn llywio technoleg, mynd i’r afael â chostau byw neu gydbwyso gofynion bywyd teuluol, byddaf bob amser yn sefyll ar ochr rhieni sy’n gwneud eu gorau dros eu plant," meddai Syr Keir.
Mae tua 98% o blant yn gwylio sgrin bob dydd erbyn maen nhw'n ddwy oed, meddai’r llywodraeth yn flaenorol.
Cafodd y canllawiau eu datblygu gan banel dan arweiniad y Comisiynydd Plant, y Fonesig Rachel de Souza, a’r arbenigwr iechyd plant, yr Athro Russell Viner.
Dywedodd yr Athro Viner, pediatregydd ac athro yng Ngholeg Prifysgol Llundain, y byddai’n hoffi gweld y llywodraeth yn cyhoeddi cyngor mwy penodol i rieni ar yr hyn sy’n gynnwys da ar gyfer plant.
"Yr hyn yr ydym wedi’i awgrymu i’r llywodraeth yw canllawiau gwell gan addysgwyr ar yr hyn sy’n gynnwys da a’r hyn sydd ddim mewn gwirionedd, oherwydd mae llawer o gynnwys addysgol allan yna sy’n gwneud pob math o honiadau a all fod yn ddryslyd i rieni," meddai.
Ychwanegodd yr Athro Viner fod cyfnodau hir o wylio sgriniau yn "gwthio allan" pethau pwysig ar gyfer datblygiad plant ifanc fel cwsg ac ymarfer corff.
Mae'n ymddangos hefyd ei fod yn cael effaith ar ddatblygiad iaith plant, ychwanegodd yr Athro Viner.
Daw'r canllawiau wrth i'r llywodraeth hefyd ymgynghori ar sut i amddiffyn plant dan 16 oed ar-lein.