Dirwy o £36,000 i bedwar dyn am gasglu cocos yn anghyfreithlon
Mae pedwar dyn wedi derbyn dirwy o £36,000 am gasglu cocos yn anghyfreithlon mewn aber afon yn ne Cymru.
Cafodd pedwar dyn - tri o Lanelli ac un o Borth Tywyn - ddirwy o dros £36,000 ar ôl eu canfod yn euog o gasglu cocos yn anghyfreithlon yng Nghilfach Tywyn, sy’n aber gwarchodedig.
Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) lansio ymchwiliad wedi iddynt dderbyn adroddiad am achos o gasglu cocos yn anghyfreithlon ger Llanelli ar 12 Mehefin 2025.
Roedd swyddogion wedi darganfod bod Ethan Thomas, Brogan Phillips, Finley Harvey Jones o Lanelli a Korey Kathrens o Borth Tywyn wedi casglu'r cocos yn anghyfreithlon ar y diwrnod dan sylw.
Teithiodd y pedwar y eu cerbydau 4x4 dros un cilomedr allan i'r aber i gasglu cocos heb ganiatâd.
Fe wnaeth swyddogion eu dal wrth geisio gadael y safle - lle'r oedd dau o'u cerbydau yn sownd yn yr aber bu’n rhaid eu tynnu oddi yno i ddiogelwch.
Cafodd nifer o gocos ac offer gafodd eu defnyddio i'w casglu eu meddiannu gan swyddogion CNC.
Gwadodd y pedwar dyn y cyhuddiadau yn eu herbyn, ond mewn achos llys yn Llys Ynadon Llanelli ar 23 Mawrth, cafwyd pob un yn euog o gynaeafu cocos yn anghyfreithlon.
Cafodd pob diffynnydd ddirwy o £4,000 a gorchymyn i dalu gordal dioddefwr o £1,600, ynghyd â chostau ychwanegol o £3,546.
Bydd yn rhaid i'r dynion dalu £200 y mis tan fod yr holl swm wedi ei dalu.
Dywedodd Huwel Manley, Pennaeth Gweithrediadau De-orllewin Cymru CNC: "Mae'r achos hwn yn tynnu sylw at ddifrifoldeb casglu cocos yn anghyfreithlon, a all niweidio ecosystemau bregus a thanseilio pysgodfeydd trwyddedig sy'n gweithredu o fewn yr aber.
"Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu ein pysgodfeydd cregyn a'n pysgodfeydd ehangach rhag gweithgarwch anghyfreithlon.
"Rydym yn croesawu penderfyniad y llys yn yr achos hwn ac yn gobeithio y bydd yn anfon neges glir na fydd troseddau pysgodfeydd a physgod cregyn yn cael eu goddef ac yn cael eu cosbi ac y byddwn yn parhau i gymryd camau gorfodi priodol yn erbyn y rhai sy'n torri'r gyfraith."