‘Newyddion da’ bod Trump wedi dileu tariffau ar wisgi medd Penderyn

Chwisgi Penderyn

Mae Prif Weithredwr cwmni wisgi Penderyn wedi dweud bod penderfyniad Donald Trump i ddileu tariffau ar wisgi “i’w groesawu yn fawr”.

Cyhoeddodd Donald Trump ddydd Iau y bydd tariffau ar wisgi sy’n cael ei fewnforio o’r DU i’r UDA yn cael eu dileu.

Daeth y cyhoeddiad yn fuan ar ôl ymweliad swyddogol y Brenin Charles a’r Frenhines Camilla â’r UDA.

Cafodd y tariff o 10% ar wisgi o’r DU ei gyflwyno ym mis Ebrill 2025 fel rhan o dariffau mewnforio ehangach yr Arlywydd Trump.

Dywedodd Trump, er bod “pobl wedi bod eisiau gwneud hyn ers amser maith”, fod y Brenin a’r Frenhines “wedi fy nghael i wneud rhywbeth nad oedd neb arall wedi gallu ei wneud”.

Dywedodd hefyd y byddai’n dileu’r “tariffau a’r cyfyngiadau ar wisgi”. Cysylltodd hynny â gallu’r Alban i weithio gyda Kentucky ar wisgi a bourbon, gan dynnu sylw at y berthynas fasnach rhwng cynhyrchwyr Scotch a diwydiant bourbon a chasgenni Kentucky.

Dywedodd Prif Weithredwr cwmni wisgi Penderyn, Stephen Davies, wrth Newyddion S4C ei bod hi’n “dda clywed” y newyddion.

“Mae gosod tariffau wedi achosi caledi mawr i gynhyrchwyr yn y DU, yn ogystal â mewnforwyr a dosbarthwyr yn yr Unol Daleithiau,” meddai.

“O ystyried yr amodau masnachu presennol, bydd yn cymryd amser hir i’r diwydiant wella o’r difrod sydd eisoes wedi’i wneud.”

Nid yw’r Arlywydd Trump wedi cadarnhau pryd y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.