'Neis bod adre': Elfyn Evans yn cyrraedd Dolgellau i ddathlu ennill Pencampwriaeth Rali'r Byd

'Neis bod adre': Elfyn Evans yn cyrraedd Dolgellau i ddathlu ennill Pencampwriaeth Rali'r Byd

Mae Elfyn Evans wedi cyrraedd Dolgellau ar gyfer digwyddiad arbennig i ddathlu ei gamp ef a'i gyd-yrrwr Scott Martin yn dilyn eu llwyddiant wrth gipio teitl Pencampwyr Rali’r Byd.

Brynhawn dydd Iau fe wnaeth y Cymro ymweld â'i hen ysgol, gyda'r disgyblion yn Ysgol Bro Idris yn cael cipolwg ar y car a ddaeth â llwyddiant iddo.

Yn ddiweddarach fe fydd digwyddiad yn Nolgellau sydd "yn gyfle i groesawu Elfyn adref, ac yn gyfle i gefnogwyr glywed sut y sicrhaodd deitl pencampwr y byd ar ôl diweddglo dramatig ar gymal olaf un y tymor", meddai'r trefnwyr.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Elfyn Evans ei bod hi'n "neis bod adre" a'i fod wedi derbyn llawer o gefnogaeth yn ystod y tymor ralio eleni.

"Wel yr ymateb, dwi'm yn gwybod ffordd i ddisgrifio fo rili," meddai.

"Fa'tha lot, lot 'di gyrru cardiau, lot 'di bod yn gyrru negeseuon. So, ie, teimlo'n, lwcus iawn a ti'n gwbo, diolchgar iawn i bawb am y gefnogaeth."

Roedd disgyblion Ysgol Bro Idris yn dathlu a bloeddio wrth i Elfyn Evans gyrraedd yn y car y cipiodd y teitl ynddo eleni.

Dywedodd ei fod eisiau rhoi cyfle i'r plant weld mwy o'r car nag y maen nhw wedi'i weld ar y teledu.

"Wel, wrth gwrs, ers colli Rali Cymru GB, dydy'r cyfle i'r plant gael gweld y ceir yma ddim yna, ddim chwaneg," meddai.

"A felly, ti'n gwybod, tra bod y car yma adre, dwi'n meddwl oedd o'n neud sens i ddod â fo 'ma a rhoi cyfle i'r plant gael gweld falle be ma'r car yn edrych fel o tu mewn a jyst rhoi blas bach iddyn nhw."

Bydd y digwyddiad i ddathlu llwyddiant Elfyn Evans a Scott Martin yn cael ei gynnal o 17:45 ymlaen ar Sgwâr Eldon yn Nolgellau.

Hefyd, fe fydd cyfle i gefnogwyr glywed am ei dymor cyffrous ac i glywed sut deimlad yw iddo fod y gyrrwr cyntaf erioed o Gymru i ennill Pencampwriaeth Rali’r Byd.

"Wna i siarad ychydig bach am sut aeth y bencampwriaeth, lawr reit i'r bôn, dwi'n meddwl. A wedyn gobeithio gallwn ni rhoid ychydig bach o display 'mlaen ar y Marian," meddai.

O achos y digwyddiad, fe fydd cyfyngiadau parcio mewn lle am gyfnod, gyda pharcio ar gyfer y noson yn y Farchnad Da Byw yn unig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.