'Mwy o arian wedi'i godi nag unrhyw gronfa leol arall' i Eisteddfod y Garreg Las

Newyddion S4C

'Mwy o arian wedi'i godi nag unrhyw gronfa leol arall' i Eisteddfod y Garreg Las

Mae Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las wedi dweud wrth Newyddion S4C fod pobl yr ardal wedi codi mwy o arian nac unrhyw gronfa leol arall yn hanes y Brifwyl.

Yn ôl John Davies, mae £515,000 yn y coffrau ar gyfer yr Eisteddfod hyd yn hyn, sydd yn torri'r record a osodwyd gan gronfa Eisteddfod Boduan yn 2023.

£400,000 oedd y nod ariannol a osodwyd ar gyfer y dair sir sydd yn rhan o Eisteddfod y Garreg Las.

Fe ddaw'r newyddion wrth i drefnwyr gorymdaith yr Eisteddfod baratoi i fynd â phyped anferth 5 metr o uchder o'r Arglwydd Rhys o gwmpas yr ardal i nodi 850 mlynedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf ym 1176.

Y Cynghorydd John Davies yw Cadeirydd Pwyllgor Gwaith y Garreg Las.

"Mae codi arian ar gyfer yr Eisteddfod yn medru bod yn faich ac yn fwrn," meddai.

"Dyw hynny ddim wedi bod yng nghyd destun Eisteddfod y Garreg Las. 

"Mae wedi bod yn bleser pur o'r cychwyn cyntaf ac mae wedi dod a phobl at eu gilydd. £400,000 oedd y nod ariannol. Fe gwrddon ni â hwnnw. Ac mae wedi bod fel tap diffygiol, ni methu ei droi i ffwrdd! 

Image
Safle’r maes yn Llantwd
Safle’r maes yn Llantwd

"Erbyn hyn 'da ni wedi croesi yr hanner miliwn, ac yn ôl yr hyn dw i ar ddeall ni bellach yng nghyd destun y Steddfod Garreg Las, 'da ni wedi torri y record. 

"Roedd honno yn berchen, yn barchus iawn, i bobl Boduan a'r cylch, ond bellach da ni lan i £515,000. 

"Mae'n adlewyrchiad o'r awch, y chwant a'r angerdd sydd gan bobl bod hon yn Eisteddfod lwyddiannus."

Yn ôl John Davies, mae'r newyddion yn adlewyrchiad o'r ffaith bod yr arbrawf o weld tair sir sef Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn cydweithio, wedi llwyddo.

"Mewn undeb mae nerth. Ac mae hynny yn berffaith wir yng nghyd-destun trindod y dair sir," meddai.

Gorymdaith

Nos Wener, fe fydd gorymdaith i nodi 850 mlwyddiant ers yr Eisteddfod gyntaf ym 1176, yn dechrau yng Nghadeirlan Tyddewi, gyda'r gadair a'r goron yn cael eu dadorchuddio yn Oriel y Parc yn ddiweddarach .

Mae'r orymdaith wedi cael ei hariannu gyda chymorth £250,000 o goffrau llywodraeth Cymru a dros £230,000 o gronfa dreftadaeth y loteri.

Fe fydd Carreg Filltir Las: Taith yr Arglwydd Rhys yn dechrau yng Nghadeirlan Tyddewi ar 19 o Fehefin, ble mae Rhys ap Gruffudd, Tywysog y Deheubarth, wedi ei gladdu, ac yn teithio i leoliadau sydd yn gysylltiedig â beirdd cadeiriog y 'Steddfod. 

Fe fydd y berfformwraig Eddie Ladd, y Prifardd Ceri Wyn Jones a'r cerddor Mari Mathias ymhlith y rhai fydd yn cyfrannu.

Dyddiadau a lleoliadau’r daith:

•       Dydd Gwener 19 Mehefin — Tŷ Ddewi ac Oriel y Parc

•       Dydd Sadwrn 20 Mehefin — Cenarth a Chastell Newydd Emlyn

•       Dydd Sul 22 Mehefin — Talgarreg a Llangrannog

•       Dydd Iau 25 Mehefin — Wdig

•       Dydd Gwener 26 Mehefin — Maenclochog

•       Dydd Sadwrn 27 Mehefin — Aberteifi

Penllanw'r prosiect fydd gorymdaith drwy strydoedd Aberteifi ar 27 Mehefin, dan arweiniad pyped enfawr 5 metr o uchder o’r Arglwydd Rhys wedi’i greu gan Theatr Byd Bach, a’i gi Teifi, sydd wedi’i greu gan Skeleton Crew. Fe fydd artisiaid o Iwerddon hefyd yn rhan o'r perfformiad.

Bydd yr orymdaith yn dod i ben ar y cei, lle bydd beirdd cyfoes a chadair yr Eisteddfod eleni a'r goron yn cyrraedd, cyn i gynulleidfaoedd gael eu harwain i’r castell ar gyfer dathliad celfyddydol i nodi 850 mlynedd o draddodiad eisteddfodol.

Image
Pyped yr Arglwydd Rhys
Pyped yr Arglwydd Rhys

Marc Rees yw arweinydd creadigol y prosiect.

"Dw i wedi cydweithio gyda phobl ffantastig. Mae theatr Byd Bach a Skeleton Crew wedi creu rhywbeth rili anhygoel," meddai.

"Eddie Ladd, y berfformwraig lleol, sydd yn tywys yr Arglwydd ac mae gweld hi yn cyfathrebu gyda'r Arglwydd yn hyfryd ac yn hudolus. 

"Ni wedi dewis lleoliadau ac mae cyn enillwyr y gadair yn dod o'r ardaloedd. Daeth y syniad o'r gymuned. Fe benderfynon nhw bod nhw moyn dod â'r Arglwydd nol yn fyw. Mae'n bwysig i gyfuno'r gorffennol a'r presennol."

Image
Marc Rees, Arweinydd Creadigol y daith
Marc Rees, Arweinydd Creadigol y daith

Mae Heledd Gwyn yn aelod o'r tîm o bypedwyr sydd yn rheoli'r Arglwydd Rhys.

"Fi sydd a'r llaw chwith! Ni wedi bod yn rhoi'r symudiadau at eu gilydd a dod a'r pyped yn fyw yn ddiweddar ond nid jyst fi yw e," meddai. 

"Mae yna un yr un ar bob braich, mae gyda ni rhywun ar y coesau a wedyn un ar y ffram, a rhywun sydd yn rheoli ei ben a'i lygaid. 

"Mae hi wedi bod yn broses o ffindio mas sut mae'n edrych. Mae'n hyfryd pan mae'n dod at ei gilydd a chi'n dechrau gweld y cymeriad yn dod allan."

Yn 1176, cynhaliodd yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd gynulliad hanesyddol yn ei gastell newydd yn Aberteifi lle cystadlodd beirdd, cerddorion a pherfformwyr am anrhydedd y gadair farddol. 

Mae'r digwyddiad wedi ei gofnodi yn y ddogfen ganol oesol Brut y Tywysogion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.