Y Mwmbwls yn paratoi i ffarwelio gyda Bonnie Tyler

BT/PA

Fe fydd cefnogwyr y gantores o Gymru Bonnie Tyler yn gallu rhoi teyrnged iddi ddydd Sadwrn wrth i’w harch gael ei chario i’w thŷ yn y Mwmbwls ger Abertawe.

Fe fydd yr arch yn cael ei chario yno am 15:30 amser lleol, ac mae’r cyhoedd wedi cael eu gwahodd i "dalu eu teyrngedau" drwy sefyll ar hyd Heol Newton am 15:15.

Bu farw’r gantores fyd enwog ddechrau mis Gorffennaf mewn Ysbyty ym Mhortiwgal yn 75 oed.

Roedd Bonnie Tyler, a gafodd ei geni ym mhentref Sgiwen ger Castell-nedd, yn un o leisiau mwyaf adnabyddus cerddoriaeth bop Prydain.

Gaynor Hopkins oedd ei henw'n wreiddiol.

Daeth yn enwog ledled y byd am ganeuon fel 'Total Eclipse of the Heart’, ‘It’s A Heartache’ a ‘Holding Out For A Hero’.

Gwasanaeth

Fe fydd gwasanaeth i'r teulu a gwesteion gwahoddedig yn Eglwys Santes Fair, Abertawe, ar ddydd Llun 17 Awst, a chaiff ei ffrydio'n fyw ar wefan swyddogol Bonnie Tyler.

Bydd y ceir angladdol wedyn yn teithio i'w phentref enedigol, gan fynd drwy'r pentref am tua 13:20 amser lleol. 

Bydd cefnogwyr hefyd yn gallu gwylio'r gwasanaeth ar sgriniau teledu y tu allan i'r eglwys.

Dywedodd yr actores  o Abertawe Catherine Zeta-Jones bod ei chalon wedi torri wrth glywed y newyddion bod "ein Bonnie Tyler annwyl wedi marw".

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth ei fod yn "drist iawn clywed am farwolaeth Bonnie Tyler".

"Mae Cymru wedi colli un o'i heiconau mwyaf, a ddaeth â llawenydd i gynulleidfaoedd ledled y byd drwy ei cherddoriaeth," meddai.

"Rwy'n estyn fy nghydymdeimlad dwysaf at ei theulu, ei ffrindiau a'i chefnogwyr.”

Disgrifiodd Tywysog Cymru hi fel "eicon Cymreig balch" a dywedodd Syr Cliff Richard ei fod yn galaru am "ffrind rhyfeddol arall sydd wedi mynd yn rhy fuan".

Roedd Bonnie Tyler yn byw yn ardal yr Algarve ym Mhortiwgal.

Cafodd ei chludo i ysbyty yn Faro ym mis Mai ar gyfer llawdriniaeth frys ar ei choluddyn, cyn cael ei rhoi mewn coma gan feddygon i’w helpu i wella.

Fe ddaeth allan o’r coma yn ddiweddarach, ond roedd yn parhau’n ddifrifol wael mewn uned gofal dwys cyn ei marwolaeth.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.