Morfa Bychan: Ffoadur o Iran wedi marw ar ôl neidio o dryc i’r môr
Bu farw ffoadur o Iran ar ôl dioddef anaf i’w ben wrth neidio i’r môr o dryc ‘pick up’ ar draeth Morfa Bychan.
Roedd Shahab Rasaeifar, 45 oed, wedi dioddef anaf ar yr ymennydd o ganlyniad i’r digwyddiad a bu’n rhaid ei drosglwyddo i uned trawma Ysbyty Stoke-on-Trent.
Bu farw yno ar 29 Mai, ychydig ddyddiau ar ôl y digwyddiad, clywodd agoriad ei gwest yng Nghaernarfon ddydd Iau.
Cafodd y cwest ei ohirio gan uwch grwner gogledd-orllewin Cymru, Kate Robertson.
Roedd Shahab Rasaeifar yn saer coed o Court Road, Wolverhampton ond yn dod o Iran yn wreiddiol.
Fe wnaeth eglwys yn Wolverhampton bostio ar-lein: “Gyda thristwch dwys rydym wedi cael gwybod bod ein brawd annwyl Shahab Rasaeifar, a oedd yn aelod o deulu ein heglwys am flynyddoedd lawer, wedi marw mewn amgylchiadau trasig.
“Daeth Shahab i’r Deyrnas Unedig o Iran fel ffoadur, ac yn ddiweddarach roedd ei deulu wedi gallu ymuno ag ef.
“Mae wedi bod yn rhan o’n cymuned am nifer o flynyddoedd, yn gwneud ac yn chwarae y Cojan ac yn adeiladu ein stabl ar gyfer ein drama’r geni awyr agored.”