Tân yng ngwaith dur Tata 'wedi achosi difrod sylweddol'
Mae tân yng ngwaith dur cwmni Tata Steel ym Mhort Talbot wedi achosi difrod sylweddol, yn ôl arweinydd undeb.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i'r safle ychydig ar ôl 20.00 nos Fercher.
Dywedodd Tata Steel fod y tân wedi effeithio ar un o linellau prosesu’r gwaith, a bod yr holl staff wedi gadael y safle’n ddiogel.
Roedd fideos o’r fan a'r lle yn dangos mwg trwchus yn codi.
Dywedodd Sharon Graham, ysgrifennydd cyffredinol Unite: “Diolch byth, ni chafodd neb eu hanafu yn y tân ac fe gafodd y gweithwyr eu symud o’r safle’n ddiogel.
“Fodd bynnag, fe wnaeth y tân achosi difrod sylweddol i linell gynhyrchu allweddol.”
Ychwanegodd: “Rhaid rhoi mesurau ar waith nawr i ddiogelu swyddi yn Tata ac ar hyd y gadwyn gyflenwi yn ystod unrhyw gyfnod o darfu.
“Yn y cyfamser, rydym yn gofyn i Tata a’r Llywodraeth sicrhau bod gweithrediadau’n cael eu hailadeiladu mor gyflym â phosib.”
Nid yw Tata Steel eto wedi cadarnhau bod y tân wedi achosi difrod sylweddol.
Fe wnaethon nhw ddiolch i dimau lleol y safle a’r gwasanaethau brys am eu “gweithredu cyflym a phroffesiynol” wedi'r digwyddiad.
Mae’r digwyddiad yn parhau ac mae timau ymateb yn cael eu cefnogi gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Avon, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Dywedodd y gwasanaeth tân fod criwiau o Bort Talbot, Castell-nedd, Treforys, Glyn-nedd, Gorllewin Abertawe, Cymer, Canol Abertawe, Pontarddulais, Llanelli, Caerfyrddin, Rhydaman, Gorseinon, Pontyates, Cydweli, Hwlffordd ac Aberdaugleddau wedi cael eu galw i’r safle.
“Dylai pobl osgoi’r ardal tra bod y digwyddiad yn parhau er mwyn caniatáu mynediad i’r gwasanaethau brys, ac mae trigolion lleol yn cael eu cynghori i gadw ffenestri a drysau ar gau os oes mwg yn yr ardal,” meddai'r llefarydd.
'Heriol'
Cafodd gwirfoddolwr o Rapid Relief Team UK eu galw i'r safle i gynorthwyo'r gwasanaethau bryd a darparu prydau bwyd iddynt.
Dywedodd llefarydd ar ran Rapid Relief Team (RRT) UK: “Mae criwiau brys wedi bod yn gweithio drwy'r nos mewn digwyddiad mawr yng Ngwaith Dur Tata ym Mhort Talbot, a oedd yn cynnwys tân sylweddol.
“Gydag wyth peiriant tân, dwy uned ewyn, dau blatfform uchel a HVP ar y safle, roedd tua 100 o ymatebwyr yn wynebu noson waith anhygoel o heriol a pheryglus.
"Cyrhaeddodd gwirfoddolwyr RRT y safle o fewn 90 munud i'r galwad, gan weini 125 o brydau poeth drwy'r nos i’r criwiau wrth iddynt barhau â'u gwaith hanfodol.
“Rydym yn ddiolchgar i bob ymatebwr a ddaeth i ddigwyddiad mor heriol.”
Daw hyn yn dilyn datganiad gan Tata Steel ddydd Mercher yn rhybuddio am "sŵn uchel" o'r gwaith dur wrth i waith i ddymchwel rhan o'r safle gael ei gynnal.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Efallai bod pobl sy'n gweithio ac yn byw yn ardal Port Talbot newydd glywed sŵn uchel yn dod o waith dur Port Talbot.
"Dyma ganlyniad i waith dymchwel y Daliwr Nwy Ffwrn Golosg gwag, diangen, sydd wedi'i gwblhau'n ddiogel fel rhan o'r gwaith peirianneg parhaus ar y safle.
"Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir."
Yn fuan wedi'r sŵn, daeth adroddiadau gan bobl sy'n byw ger y safle eu bod wedi clywed larwm uchel o'r safle, cyn i fwg du trwchus ddechrau codi o fewn y ffatri.
Llun: PA/Yvonne Courtney