‘Mor neis’ gweld cymaint o ddysgwyr ar gyfres Y Llais eleni
‘Mor neis’ gweld cymaint o ddysgwyr ar gyfres Y Llais eleni
Mae un o gystadleuwyr Y Llais sydd wedi dysgu Cymraeg yn dweud ei fod "mor neis" gweld cymaint o ddysgwyr ar y gyfres eleni.
Yn wreiddiol o Peterborough yn Lloegr, fe benderfynodd Ryan Rowe ddysgu Cymraeg ar ôl agor siop gacennau ym Mharc Fictoria, Caerdydd.
Fe wnaeth tri o'r hyfforddwr droi eu cadeiriau er mwyn ei weld yn y clyweliad cudd, ac fe ddewisodd Ryan fod yn rhan o dîm Yws Gwynedd.
Yn ystod dwy bennod gyntaf y gyfres eleni, mae wyth o'r 20 cystadleuydd yn dweud eu bod yn, neu wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn.
Credai Ryan, sydd yn 31 oed ei fod yn bwysig bod y gynulleidfa yn gweld "cynrychiolaeth" dysgwyr ar un o brif raglenni S4C.
"Yn y cyfres ‘ma ma’ ‘na lot o pobl sy’n dysgu Cymraeg, sy’n mor neis i weld rili, i ddangos bod hyd yn oed dysgwyr yn gallu bod yn llwyddiannus ar y llwyfan," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mae’n rili bwysig i fi i ddangos i pawb arall ‘nai neud camgymeriadau ond, doesn’t matter really.
"Jyst, you know, mynd ymlaen a cario ‘mlaen.
"Fi’n meddwl bod hi’n bwysig i ddangos y cynrychiolaeth, i pobl arall i ddangos bod nhw’n gallu neud pethau da yn y byd Cymraeg.
"Pan nes i weld y cyfres diwetha’, ges i fy ysbrydoli gan Aleighcia, a nes i teimlo ‘o wel, falle fi’n gallu neud e hefyd’."
'Iaith yn agor drysau'
Yr wythnos hon fe wnaeth data newydd awgrymu bod mwy nag 20,000 o bobl bellach yn dysgu Cymraeg, sef y nifer uchaf erioed.
Roedd 20,445 o bobl wedi cwblhau cyrsiau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn 2024-2025 – cynnydd o 61% ers y cyhoeddiad data cyntaf yn 2017-2018 pan roedd 12,680 o ddysgwyr gyda'r ganolfan.
Fe ddechreuodd Ryan ddysgu Cymraeg ôl iddo ef a'i bartner busnes o Aberystwyth benderfynu y dylai aelodau staff eu siop gacennau ym Mharc Fictoria siarad Cymraeg.
Erbyn hyn mae aelodau'r siop Let Them See Cake sydd yn gwasanaethu cwsmeriaid yn medru'r Gymraeg, ac fe wnaeth Ryan wella ei sgiliau iaith trwy gyfathrebu gyda chwsmeriaid.
"Yn yr ardal ‘ma, ma’ ‘na gymaint o siaradwyr Cymraeg, a o’n i isho teimlo yn gyfforddus gyda serfio cwsmeriaid," meddai.
“Dechreuais i gyda apps fel Duolingo a wedyn symud ymlaen i apps fel Dweud Rhywbeth Yn Gymraeg sydd yn rili defnyddiol."
Ychwanegodd Ryan: “Ti angen jyst dechrau siarad a cael y feedback yna, a wedyn siarad mwy.
“Felly mae pobl yn dod yma a archebu yn Gymraeg, ni’n digon hapus gwasanaethu yn Gymraeg.
“Ma’ iaith yn agor drysau i fi, a o’n i’n gallu neud rhywbeth do’n i ddim yn meddwl bo’ fi’n gallu neud, er enghraifft, Y Llais."
