Matthew Rhys i bortreadu cyn-olygydd The Sunday Times mewn drama newydd

Matthew Rhys mewn llun gyda Harry Evans

Mae’r actor o Gymru, Matthew Rhys, wedi cael ei ddewis i bortreadu Syr Harry Evans mewn cyfres ddrama newydd or enw Dragon Slayers ar BBC One a BBC iPlayer.

Syr Harry Evans oedd cyn-olygydd The Sunday Times, ac roedd ei dîm Insight yn enwog am ei newyddiaduraeth ymchwiliol, gan ddatgelu rhai o straeon mwyaf hanes y DU. Bydd Dragon Slayers yn gyfres chwe rhan yn edrych ar waith y cyn-olygydd.

Dywedodd Matthew ei fod wedi “gwirioni cael bod yn rhan o’r gyfres”.

Bydd y rhaglen wedi’i gosod yn yr 1970au, ac yn seiliedig ar ymchwil eang, cofnodion cyhoeddedig a chyfweliadau â phobl oedd yn adnabod Harry neu wedi gweithio gydag ef, yn cynnwys ei weddw ac aelodau o'i deulu, â'r golygydd, awdur a newyddiadurwr Tina Brown CBE.

Roedd tîm Insight Harry Evans yn enwog am herio cwmnïau mawr y cyfnod, yn y byd cyfreithiol a llywodraethau'r dydd.

Un o brif straeon y tîm oedd sgandal Thalidomide, lle bu’r tîm yn brwydro dros y dioddefwyr gan ddatgelu sut roedd gwybodaeth bwysig wedi cael ei chadw rhag y cyhoedd.

Fe wnaethon nhw hefyd ymchwilio i ddamwain awyren y DC-10, un o drychinebau awyr gwaetha'r byd ar y pryd.

Wrth siarad am ei ran newydd, dywedodd Matthew Rhys: “Ar adeg pan mae straeon o’r fath mor angenrheidiol, dw i wedi gwirioni cael bod yn rhan o’r gyfres hon.”

Peter Bowker, sy’n adnabyddus am ysgrifennu dramâu fel The A Word a Marvellous, fydd awdur y gyfres.

Dywedodd fod cael adrodd hanes Harry Evans yn “fraint ac yn bleser mawr”.

“Ac mae cael Matthew yn arwain y cast yn fwy nag y gallen ni fod wedi’i obeithio,” meddai.

“Gobeithio y bydd y ddrama’n gwneud i ni edrych o’r newydd ar newyddiaduraeth - ac ar y degawd hwnnw sydd mor aml yn cael ei gamddeall, y 1970au.”

Does dim dyddiad darlledu wedi’i gyhoeddi eto.

 

Llun:BBC/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.