'Mor falch': Cymru i gystadlu ym Mhencampwriaeth Trin Cŵn y Byd am y tro cyntaf
'Mor falch': Cymru i gystadlu ym Mhencampwriaeth Trin Cŵn y Byd am y tro cyntaf
Fe fydd tîm o Gymru yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Trin Cŵn y Byd am y tro cyntaf erioed eleni.
Bydd aelodau'r tîm, Charlotte Santini, Naomi Samuel, Georgia Fuller a Hayley Johnston yn cynrychioli Tîm Cymru yng nghystadleuaeth Groomania yn Waregem, Gwlad Belg ar 20 Medi.
Bydd arbenigwyr trin cŵn o wahanol wledydd yn cystadlu fel timau cenedlaethol yn y bencampwriaeth, gyda'r cystadleuwyr yn cael eu beirniadu ar eu sgiliau trin a thacluso cŵn.
Mae'r bedair yn cystadlu mewn categorïau gwahanol, yn dibynnu ar ba fath o gi maen nhw'n ei drin.
Dywedodd Charlotte Santini o Feddau ger Pontypridd ei bod yn "falch iawn" o allu cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth.
"Dwi'n teimlo mor falch i fod yn Nhîm Cymru blwyddyn yma. Mae'n hollol wych," meddai wrth Newyddion S4C.
"A dwi'n meddwl mae'n rhywbeth i bobl anelu ato, yn enwedig ymhlith trinwyr cŵn Cymru.
"Dwi mor gyffrous, mae'n mynd i fod yn benwythnos ffantastig."
Mae cystadleuaeth Groomania yn cael ei chynnal rhwng 17 a 20 Medi ac yn dod ag arbenigwyr thrin cŵn proffesiynol o bob cwr o'r byd ynghyd ar gyfer cystadlu, seminarau ac arddangosfeydd.
Mae Pencampwriaeth Trin Cŵn y Byd yn cael ei chynnal ar ddiwrnod olaf y digwyddiad, sef ddydd Sul.
Wrth baratoi ar gyfer y gystadleuaeth, dywedodd Charlotte Santini fod trin ci ar gyfer cystadleuaeth yn wahanol iawn i'r gwaith arferol mewn salon.
"Mae'r ci yn gorfod bod yn dda iawn, i sefyll yn dda iawn," meddai.
"Mae llawer mwy iddo na grwmio yn y salon.
"Handstripping yw fy nghystadleuaeth i, a gyda'r Welsh Terrier fydda i'n ei drin, bydd y beirniaid yn edrych am sawl peth gwahanol.
"Bydd angen i'r gwallt yn y blaen fod yn fflat iawn, a bydd angen tacluso o gwmpas y pen a'r clustiau.
"A wedyn yr aeliau a'r barf hefyd, a gwneud yn siŵr bod siaced y ci yn llyfn, ac mae sawl elfen arall hefyd."
Dwy awr a hanner fydd gan Charlotte a'r cystadleuwyr eraill i drin eu cŵn, ac mae'r amser hwnnw "yn hedfan", meddai.
Mae Pencampwriaeth Trin Cŵn y Byd wedi cael ei chynnal ers 2003, pan fu saith tîm yn cystadlu yn y bencampwriaeth gyntaf yn Barcelona.
Erbyn 2017, roedd 20 o dimau'n cymryd rhan.
Mae'r bedair sy'n cynrychioli Cymru eleni wedi gorfod perfformio'n dda mewn cystadlaethau ar draws y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau eu lle yn Nhîm Cymru.
Dywedodd Naomi Samuel o Lanelli wrth Newyddion S4C fod Cymru wedi bod eisiau cystadlu ers sawl blwyddyn.
"Ni yw'r tîm cyntaf o Gymru i fynd, ac rydym wedi bod eisiau cystadlu ers amser maith," meddai.
"Yn anffodus dyw e heb ddigwydd, ond eleni mae'r grŵp o ferched sydd gennym a'r merched sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni yn grêt.
"Rydym ni eisiau rhoi popeth yn y gystadleuaeth a thrin cŵn i'r safon orau rydym erioed wedi'i chyrraedd."