'Mor falch': Athro anneuaidd yn canmol disgyblion am barchu eu hunaniaeth

Mx Alex Williams
Mx Alex Williams

Mae athro anneuaidd (non-binary) sy'n serennu mewn rhaglen ddogfen newydd am y byd addysg wedi canmol disgyblion am y parch maen nhw wedi’i ddangos at eu hunaniaeth.

Mae Alex Williams, sy’n dysgu gwyddoniaeth yn Ysgol Gymraeg Bro Dur ym Mhort Talbot, yn ymddangos yng nghyfres newydd S4C, Athrawon. Mae'r gyfres yn dilyn athrawon yng Nghymru yn eu blwyddyn gyntaf wedi cymhwyso i ddysgu.

Mae Alex yn defnyddio’r rhagenwau ‘nhw’ ac ‘eu’ ac mae’r disgyblion yn cyfeirio atyn nhw fel Mx Williams.

Yn y rhaglen, mae Alex yn esbonio bod y disgyblion yn gwneud ymdrech i ddefnyddio’r teitl cywir, ac yn aml yn cywiro eu hunain os ydyn nhw’n gwneud camgymeriad.

“Dwi jyst yn falch eu bod nhw’n trio,” meddai Alex.

“Mae’r plant wedi bod mor barchus a, like, accepting, so ma’ hwnna’n neis”

Image
Alex Williams

Mae gallu sgwrsio a chael hwyl gyda’r disgyblion hefyd yn bwysig i Alex wrth feithrin perthynas â nhw.

“Mae’n helpu i fi ymlacio, iddyn nhw ymlacio, ac mae hwnna’n rili neis.”

Mae Alex yn gwisgo bathodynnau er mwyn atgoffa’r disgyblion o’u rhagenwau.

Yn ôl Miss Sioned Jones, dirprwy bennaeth Ysgol Gymraeg Bro Dur, Alex yw’r person anneuaidd cyntaf i’r ysgol ei benodi.

“Dwi’n meddwl bod o’n bwysig iawn bod bob un disgybl yn gweld bod na gynrychiolaeth iddyn nhw ar gorff y staff,” meddai.

Athrawon

Mae’r gyfres newydd yn dilyn wyth cyw athro wrth iddyn nhw gymryd y cam o’r cwrs hyfforddi i ddysgu dosbarthiadau ar eu pennau eu hunain.

Dywedodd Llinos Wynne, Pennaeth Dogfennau a Ffeithiol Arbenigol S4C, fod Athrawon yn “gyfres bwysig sydd yn taflu goleuni ar y gwaith hanfodol mae athrawon yn ei wneud.”

“Mae’n gyfres amserol sy’n cynnig mewnwelediad ffres i’r byd addysg drwy gymeriadau lliwgar, hiwmor, empathi a gonestrwydd,” meddai.

Image
Alex Williams

Ar ddechrau’r gyfres, mae Mx Williams yn datgelu fod bod mewn grwpiau newydd o bobl yn gallu eu gwneud “yn eitha’ anxious.

“Dwi'n meddwl dwi jyst yn gallu gwneud fy ngorau a gobeithio bydd e'n ffein,” meddai.

Dylanwad modryb

Mae’r athrawon eraill yn eu teulu wedi dylanwadu’n fawr ar Alex.

“Dwi'n meddwl y person sydd wedi cael y dylanwad fwyaf yw fy modryb,” meddai.

“Roedd hi'n addysgu mewn ysgol mas yn Kenya.

“Roedd gweld, oh my gosh, gall addysg neu fod yn athro ddod â chi mas i lefydd mor wahanol... rwy'n dwli ar y syniad yna.”

Mae’r gyfres hefyd yn dangos Miss Jones, y dirprwy bennaeth, yn canmol “ymdrech” Alex i “sefydlu perthnasau” â’r disgyblion.

“Maen nhw’n crwydro, maen nhw’n neud sgyrsiau gyda’r disgyblion, mae’n nhw’n gwneud yn siwr bod pobol yn teimlo’n bwysig yn y dosbarth ac mae hynny i’w weld yn cael effaith cadarnhaol iawn hyd yn hyn,” meddai.

Mae’r gyfres yn dechrau nos Fawrth am 21:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.