Chwech wedi eu lladd ar ôl i ddyn ddechrau ‘saethu at bobl ar hap o’i gar’ yn Kraków

Krakow

Mae chwech o bobl wedi cael eu lladd mewn saethu ym Mhrif Sgwâr y Farchnad yn Kraków yng Ngwlad Pwyl, meddai'r heddlu yno.

Dywedodd Heddlu Małopolska fod tua 15 o bobl wedi eu hanafu, gan gynnwys dau o swyddogion heddlu, ac mae un ohonynt mewn “cyflwr critigol iawn".

Mewn datganiad ar X, dywedodd yr heddlu fod dyn wedi gyrru i'r sgwâr tua 15:00 amser lleol cyn dechrau “saethu at bobl ar hap o’i gar”.

Cafodd y dyn sydd dan amheuaeth ei saethu gan yr heddlu ac mae’n cael ei gludo i’r ysbyty, yn ôl datganiad arall.

Mae’r dyn dan amheuaeth yn ddinesydd o Wlad Pwyl, yn ôl y weinyddiaeth fewnol. Dywedodd yr heddlu ei fod yn gwisgo “dillad o steil milwrol” ac wedi defnyddio “arfau milwrol”, a bod rhagor o arfau wedi’u canfod yn ei gerbyd.

Cafodd dau ddyn a phedair menyw eu lladd, meddai'r heddlu.

Mae’r ardal o amgylch Prif Sgwâr y Farchnad wedi’i chau, ac mae’r heddlu’n anfon pobl i ffwrdd o’r strydoedd sy’n arwain at y sgwâr.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd cyfrif swyddogol dinas Kraków:

“Cafodd ergydion eu tanio ym Mhrif Sgwâr y Farchnad. Mae’r gwasanaethau brys eisoes yn y fan a’r lle. Mae’r heddlu hefyd yn cynnal ymgyrch ar Stryd Dietla.

“Rydyn ni’n aros am gadarnhad swyddogol o faint y digwyddiad, gan gynnwys gwybodaeth am nifer y bobl sydd wedi cael eu hanafu.”

Mae awdurdodau’r ddinas yn gofyn i drigolion osgoi’r ardal tra bod yr heddlu’n ymchwilio.

'Clywed seirenau'

Fe ddywedodd dyn ifanc o Gymru sydd draw yn Kraków ar hyn o bryd, nad oedd am gael ei enwi, wrth Newyddion S4C ei fod wedi clywed seirenau a gweld hofrennydd.

"Oedden ni ar un o'r strydoedd wrth ochr y brif sgwâr, ac fe glywson ni seirenau," meddai.

"Fe welson ni bod dipyn o bobl yn dod allan o'r siopau, ac yn sefyll yn y drysau yn siarad efo'i gilydd.

"Wedyn fe welson ni ar y Newyddion bod saethu wedi bod, a pump wedi'u lladd."

Ychwanegodd mewn sgwrs gyda Newyddion S4C : "Mae Jet2 wedi cysylltu gyda ni a dweud eu bod nhw'n ymwybodol o'r sefyllfa ac i ddilyn y guidance diweddaraf gan yr awdurdodau lleol."

Ymateb

Dywedodd Prif Weinidog Gwlad Pwyl, Donald Tusk bod “y Gweinidog Mewnol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi am y sefyllfa yn Kraków ar ôl y saethu trasig".

“Mae’r heddlu’n ymchwilio i gefndir yr ymosodiad a’r holl amgylchiadau," meddai.

Mae Arlywydd Gwlad Pwyl, Karol Nawrocki, yn dweud ei fod yn teimlo'n “bryderus iawn am adroddiadau am y digwyddiadau trasig” yn Kraków, a bod ei feddyliau gyda’r dioddefwyr, y rhai sydd wedi’u hanafu a’u teuluoedd.

“Rwy’n cadw mewn cysylltiad â’r awdurdodau perthnasol ac yn disgwyl esboniad llawn o amgylchiadau’r digwyddiadau trasig hyn,” meddai.

“Mae pennaeth y Swyddfa Diogelwch Cenedlaethol ar ei ffordd i Kraków. Mae diogelwch pobl Gwlad Pwyl yn flaenoriaeth!”

Llun: Reuters.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.