Miloedd yng Nghaerdydd ar gyfer digwyddiad Pride Cymru

Gorymdaith Pride 2026

Mae miloedd wedi ymuno â dathliad Pride Cymru yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, wrth i orymdaith gael ei chynnal drwy'r brifddinas.

Fe wnaeth gorymdaith drwy strydoedd canol y ddinas gychwyn am 11:00 cyn i'r brif ŵyl gael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd.

Eleni yw'r 27ain flwyddyn i'r digwyddiad gael ei gynnal, gyda dros 50,000 yn rhan o'r dathliadau yn 2025.

Fe gafodd pleidiau gwleidyddol eu gwahardd rhag mynychu y llynedd, ond eleni mae'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, wedi derbyn gwahoddiad i'r digwyddiad.

Brynhawn dydd Sadwrn, roedd y dathliadau wedi symud i Gastell Caerdydd, gyda pherfformiadau gan Kate Nash, y seren drag o Dreorci, Catrin Feelings, ac Ultrabeat yn diddanu'r dorf tan ddiwedd y noson am 22:30.

Fe fydd y digwyddiad yn parhau ddydd Sul gyda mwy o berfformwyr ar y llwyfan.

Image
Roedd yua 50,000 wedi mynychu Pride Cymru 2025. Llun: Pride Cymru
Roedd 50,000 wedi mynychu Pride Cymru 2025. Llun: Pride Cymru

Roedd yr orymdaith ar gael i'w gwylio am ddim, tra bod angen tocyn i fynychu'r digwyddiad yn y castell.

Bydd Heol Caerdydd (ger cyffordd Heol Westgate), Heol Duke, Kingsway ar gau rhwng 06:00 a 00:00 yn ytsod i digwyddiad.

Llun: Angel Hotel

 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.