Carcharu dyn o Abersoch am ladrata ag ymosod ar weithiwr siop
Mae dyn o Abersoch yng Ngwynedd wedi ei garcharu am ladrata ag ymosod ar weithiwr siop.
Roedd Jack Wellings, 28 oed, wedi ei gyhuddo o chwe throsedd o ladrata o siopau a throsedd o ymosod ar weithiwr siop, a ddigwyddodd rhwng y 9fed a'r 10fed o Fehefin yn Abersoch a Phwllheli.
Cafodd ei ddedfrydu i 30 wythnos yn y carchar.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu'r Gogledd: "Bydd y Tîm Plismona Cymdogaeth yn parhau i weithio gyda phartneriaid yn y gymuned i sicrhau bod unrhyw faterion parhaus sy’n gysylltiedig â Wellings a’i gysylltiadau yn cael eu delio â hwy.
"Byddwn yn defnyddio’r holl bwerau sydd ar gael o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 i ddiogelu ein cymunedau."
Dywedodd Arolygydd Ardal, Iwan Jones: “Byddwn yn mynd ar drywydd yn ddi-baid y rhai sy’n credu bod ganddynt yr hawl i ddwyn ac i achosi niwed i aelodau o’n cymunedau.
"Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth y gymuned fanwerthu, a dylai troseddwyr wybod y bydd unrhyw ymgais i ddwyn oddi wrth fanwerthwyr yn Ne Gwynedd yn cael eu trin yn gadarn, a bydd yn cael eich erlid a’ch rhoi gerbron y llysoedd."