Disgwyl cytundeb heddwch rhwng America ac Iran 'o fewn y 24 awr nesaf'

Protestwyr tu allan i'r Ty Gwyn wedi'r cadoediad

Mae'n bosib y gallai cytundeb heddwch gael ei arwyddo rhwng Iran a'r Unol Daleithiau o fewn y 24 awr nesaf.

Dyna oedd neges prif weinidog Pacistan, Shehbaz Sharif, mewn neges ddydd Sadwrn wrth i'w wlad chwarae rhan ganolog yn y trafodaethau.

Mae'r awdurdodau yn Islamabad yn gweithio'n agos gyda'r ddwy ochr er mwyn ceisio dod â'r cytundeb i fwcl.

Yn ôl adroddiadau fe allai Mr Sharif deithio i Genefa yn y Swistir er bod yn llygad-dyst i'r broses o arwyddo'r cytundeb heddwch.

Yn ei neges, dywedodd y prif weinidog: "Rydym yn agosach at gytundeb heddwch nag erioed o'r blaen. 

"Gyda disgwyl i'r cytundeb gael ei gwblhau yn ystod y 24 awr nesaf, mae Pacistan yn paratoi ar gyfer llofnodi'r cytundeb heddwch yn electronig yn syth wedi hynny, ac yna trafodaethau technegol yr wythnos nesaf.

"Hoffem ddiolch i Unol Daleithiau America a Gweriniaeth Islamaidd Iran am eu hymrwymiad parhaus yn ystod y trafodaethau, ac rydym yn estyn ein gwerthfawrogiad diffuant i'n brodyr yn y rhanbarth am eu cefnogaeth. 

"Rydym yn hyderus y bydd y cytundeb heddwch hanesyddol hwn yn ffurfio sylfaen gref ar gyfer heddwch parhaol."

Yn ôl ffynonellau yn y Tŷ Gwyn, er nad yw union eiriad y cytundeb heddwch yn ei le eto, mae hynny'n agos iawn at ddigwydd.

Mae'r Americanwyr hefyd yn disgwyl y bydd cytundeb yn y dyddiau nesaf.

Y gred yw y byddai'r cytundeb heddwch yn arwain at ailagor Culfor Hormuz i longau, gyda lluoedd yr UDA yn dod a'u blocâd o borthladdoedd Iran i ben.

 

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.