Miloedd o ddisgyblion i dderbyn eu canlyniadau Safon Uwch yng Nghymru

Cablyniadau arholiadau

Mae disgwyl i filoedd o ddisgyblion yng Nghymru dderbyn eu canlyniadau Safon Uwch ddydd Iau.

Bydd disgyblion yn cael casglu eu canlyniadau o 08.00 ddydd Iau, gyda nifer yn gobeithio sicrhau lle yn y brifysgol.

Wrth ddymuno pob lwc i ddisgyblion sy’n disgwyl canlyniadau, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth bod cefnogaeth ar gael ar wefan Cymru’n Gweithio.

“Beth bynnag eich canlyniadau, cofiwch mai dim ond un cam ar eich taith chi ydi hyn. Mi ddylech chi fod yn falch iawn o’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni hyd yn hyn,” meddai.

“P’un a ydych chi’n mynd i’r coleg, i’r brifysgol, prentisiaeth, hyfforddiant neu waith, mae cefnogaeth ar gael i’ch helpu chi gyda’ch cam nesaf.”

Yng nghanlyniadau 2025, roedd gostyngiad yng nghanran y graddau uchaf ar gyfer Safon Uwch yng Nghymru am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Roedd canran y graddau A* ac A yn 29.5% yn 2025, sef gostyngiad bach o gymharu â 29.9% yn 2024, a gostyngiad o bron i 5% o gymharu â 2023 (34%).

Er gwaethaf y gostyngiad, mae'r canlyniadau'n parhau i fod yn uwch na'r lefel cyn pandemig Covid-19, pan roedd canran y graddau A* ac A yn 26.5%.

Cafodd y mwyafrif o'r mesurau ychwanegol a gafodd eu cyflwyno i helpu disgyblion yn sgil effaith Covid-19 ar addysg eu dileu yn 2024.

Y llynedd, roedd 97.5% o fyfyrwyr Safon Uwch yng Nghymru wedi ennill graddau A* i E.

Enillodd 10.5% o ymgeiswyr radd A*, tra bod 29.5% wedi cael gradd A* neu A. 

I rai, bydd y diwrnod yn nodi dechrau pennod newydd, tra bydd eraill yn ystyried eu hopsiynau os nad yw eu canlyniadau’n cyrraedd eu disgwyliadau.

Bydd y broses glirio yn cynnig cyfle i rai sydd heb gael y graddau sydd eu hangen ar gyfer eu dewis cyntaf chwilio am lefydd gwag mewn prifysgolion eraill.

Er bod nifer yn gobeithio sicrhau lle yn y brifysgol, bydd eraill yn dechrau prentisiaeth, yn mynd i’r coleg, yn dechrau gweithio neu’n dilyn llwybrau eraill.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.