Miliband yn gwrthod honiad ei fod yn peryglu bywydau Iddewon

Ed Miliband yn rhoi araith yn Nhy'r Cyffredin

Mae'r Ysgrifennydd Tramor wedi gwrthod yr honiad ei fod yn peryglu bywydau Iddewon Prydeinig ar ôl iddo osod sancsiynau yn erbyn ymsefydlwyr Israelaidd ar y Lan Orllewinol.

Fe fydd unrhyw un sy'n targedu Iddewon Prydeinig oherwydd gweithredoedd Llywodraeth Israel yn "wrth-Semitaidd", meddai Ed Miliband.

Mae Israel ac America wedi beirniadu'r cyhoeddiad a ddaeth ddydd Mawrth. Mae'n golygu y bydd gwaharddiad ar nwyddau sy'n dod o aneddiadau anghyfreithlon yn Nhiriogaethau Meddianedig Palestina, a sancsiynau ar unigolion a chwmnïau sy'n darparu gwasanaethau i ymsefydlwyr.

Yn ôl Prif Rabi’r DU, Syr Ephraim Mirvis, bydd penderfyniad Llywodraeth y DU yn rhoi mwy o hyder i bobl sy’n “defnyddio casineb fel arf yn erbyn Iddewon”.

Mae Mr Miliband wedi taro'n ôl gan ddweud wrth Jewish News: "Mae yna Iddewon Prydeinig sy'n byw eu bywydau o ddydd i ddydd, mae gweithredoedd Llywodraeth Israel, ac yna mae ein perthynas ni ag Israel.

"Dwi eisiau perthynas gryf ac un sy'n ffynnu ag Israel," ychwanegodd.

'Celwydd gwarthus'

Fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Tramor ddydd Mawrth fod Llywodraeth Israel yn troi llygad ddall at yr "glanhau ethnig" o Balestiniaid gan ymsefydlwyr.

Mae Gweinidog Tramor Israel, Gideon Saar, wedi ymateb drwy honni bod Mr Miliband yn lledaenu "celwydd gwarthus". Fe gyhoeddodd fesurau yn erbyn Prydain, gan gynnwys cau conswliaeth y DU yn Nwyrain Jerwsalem.

Fe fydd Israel hefyd yn gwahardd 11 o Aelodau Seneddol, gan gynnwys Jeremy Corbyn a Diane Abbott.

Mae'r Prif Weinidog, Andy Burnham, wedi dweud mai'r sancsiynau yw'r "peth cywir i'w wneud".

Dywedodd nad ydyn nhw wedi'u hanelu at "bobl Israel", ond eu bod yn ceisio dod â heddwch i'r rhanbarth.

"Dyw pobl Israel ddim yn gyfrifol am weithredoedd eu llywodraeth, na'r gymuned Iddewig ym Mhrydain," meddai.

'Buddiannau ei hun'

"Mae beio Iddewon Prydeinig am weithredoedd llywodraeth Benjamin Netanyahu yn anghywir, mor syml â hynny. Ac mae'n wrth-Semitiaeth, mor syml â hynny."

“Fe wnes i gyfarfod â chynrychiolwyr y gymuned Iddewig yr wythnos diwethaf. Rwy’n gwybod am yr ofn maen nhw’n byw gydag ef o ddydd i ddydd. Bydd fy Llywodraeth yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau eu bod yn ddiogel ac i gael gwared ar wrth-Semitiaeth ym mhob rhan o’n cymdeithas.”

Ond mae arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch, wedi ysgrifennu yn The Sun fod y sancsiynau yn dangos bod y Prif Weinidog yn "rhoi buddiannau gwleidyddol ei blaid ei hun o flaen ein buddiannau cenedlaethol". Dywedodd fod Israel yn “bartner diogelwch a chudd-wybodaeth pwysig” i’r DU.

“Gwleidyddiaeth er mwyn creu argraff yw’r sancsiynau hyn, wedi’u cynllunio i dawelu ASau ac ymgyrchwyr Llafur, waeth beth fo’r canlyniadau i Brydain,” ysgrifennodd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.