MI5 ‘wedi monitro Aneurin Bevan am dros 20 mlynedd’ yn ôl archifau

Aneurin Bevan Llun: PA

Cafodd y gwleidydd o Gymru, Aneurin Bevan, oedd yn ganolog i sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd, ei fonitro gan MI5 am fwy na dau ddegawd, yn ôl dogfennau swyddogol sydd newydd gael eu rhyddhau.

Mae dogfennau’r Archifau Cenedlaethol yn dangos iddo ddod dan chwyddwydr y gwasanaeth cuddwybodaeth am y tro cyntaf yn y 1930au.

Roedd yn cael ei ystyried ar y pryd gan yr awdurdodau fel radical o’r asgell chwith, mewn cyfnod pan roedd pryderon am ei gysylltiadau gyda Chomiwnyddion amlwg.

Fe wnaeth y gwaith monitro barhau hyd yn oed ar ôl iddo ddod yn weinidog yn y llywodraeth Lafur ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Llwyddodd bryd hynny i sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd er gwaethaf gwrthwynebiad ffyrnig gan feddygon.

Ar un adeg, roedd cyfarwyddwr cyffredinol MI5 mor bryderus am ei gysylltiadau ag ysbïwr Rwsiaidd nes iddo fynd i weld y Prif Weinidog Clement Attlee yn Rhif 10 i’w rybuddio.

Ond roedd eraill yn MI5 wedi cwestiynu pam eu bod yn cymryd diddordeb yn ei weithgareddau, o ystyried bod popeth yr oedd yn ei wneud yn digwydd yn agored ar lawr Tŷ’r Cyffredin.
 
Wrth adolygu’r papurau ar ôl ei farwolaeth ym 1960, nododd swyddog o MI5: “O ystyried pa mor ddadleuol oedd Nye Bevan fel cymeriad, mae’r ffeil yn rhyfeddol o ddi-nod.”
 
'Brwdfrydedd efengylaidd Cymreig'
 
Mae’r papurau’n dangos i MI5 agor ffeil bersonol ar Mr Bevan - a oedd ar y pryd yn AS Llafur ar y meinciau cefn dros Lyn Ebwy - ym 1933.
 
Mae un o’r adroddiadau cynnar yn cynnwys disgrifiad o rali yn 1934 ym Montreal, Canada yn erbyn y Natsïaid, lle roedd Mr Bevan ymhlith y siaradwyr.
 
“Mae Bevan wedi etifeddu brwdfrydedd efengylaidd ei hynafiaid Cymreig, ac mae’n gwybod sut i’w ddefnyddio o blaid yr achos Comiwnyddol,” meddai’r adroddiad.
 

“Roedd yn dychmygu y byddai cwymp y drefn Natsïaidd yn golygu dechrau Ewrop unedig o dan reolaeth Sofietaidd.”

Ym 1943, lluniodd Roger Hollis - a fyddai’n mynd ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr Cyffredinol MI5 - grynodeb o’r hyn oedd yn hysbys am weithgareddau Mr Bevan hyd at y cyfnod hwnnw.

Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd ym 1939, dywed y cofnodion fod Bevan wedi mabwysiadau polisi o “ryfel ar ddau ffrynt” - gan ymosod ar yr Almaenwyr dramor ac ar lywodraeth Geidwadol Neville Chamberlain gartref.
 
Fe wnaeth hyn barhau ar ôl i Winston Churchill ffurfio llywodraeth glymblaid - gyda Mr Bevan yn beirniadu'n llym y ffordd yr oedd y rhyfel yn cael ei chynnal, tra'n cyhuddo gweinidogion Llafur o “droi gormod i'r dde”.
 
Cinio 'anghyfeillgar' gyda'r Sofietaid
 
Er nad oes dim yn y cofnodion i awgrymu bod MI5 erioed wedi gwrando ar ei ffôn neu ddarllen ei bost, roedd rhai o fewn MI5 yn pendroni pam yr oedd y gwasanaeth yn trafferthu o gwbl.
 
Mae un o’r adroddiadau olaf yn dyddio o 1954, pan gafodd Mr Bevan - a oedd erbyn hynny allan o lywodraeth - i gyfarfod â llysgennad yr Undeb Sofietaidd, Yakov Malik, dros ginio yn llysgenhadaeth Gwlad Pwyl yn Llundain.
 
Aeth “pethau o chwith” yn y digwyddiad, yn rhannol oherwydd bod y Rwsiad yn cael trafferth deall acen Gymreig Mr Bevan, gan arwain at gamddealltwriaeth rhwng y ddau.
 
“Cafodd llawer iawn o alcohol ei yfed, ond daeth y cyfarfod i ben mewn awyrgylch nad oedd yn rhy gyfeillgar,” meddai’r adroddiad.
 
Ni chafodd y ffeil ei chau’n derfynol tan 1975 - 15 mlynedd ar ôl i Mr Bevan farw.
 
Prif lun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.