Merch ifanc o Wynedd yn troi at Tiktok am gefnogaeth ar ôl colli babi
Merch ifanc o Wynedd yn troi at Tiktok am gefnogaeth ar ôl colli babi
Rhybudd: Fe allai cynnwys yr erthygl hon peri gofid i rai.
Mae merch ifanc o Wynedd yn dweud nad oes digon o gefnogaeth i rai sy'n colli babi'n gynnar a bod gormod o stigma'n dal ynghlwm a'r pwnc.
Mi benderfynodd Alaw Llyfni, o Benygroes yn Nyffryn Nantlle, son am ei phrofiad diweddar ar blatfform Tiktok. A hithau gyda dros 30,000 o ddilynwyr, mae'r fideo wedi mynd ymhell a sawl un wedi cysylltu gyda hi'n rhannu eu profiadau hwythau.
Yn y cyfamser, mae elusen y Miscarriage Association wedi rhyddhau adroddiad sy'n casglu bod "anghysonderau mawr" yn y gofal a'r gefnogaeth ar draws y DU.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydweithio ag elusennau i "safoni'r ddarpariaeth i bob teulu yng Nghymru".
Roedd Alaw 11 wythnos yn feichiog pan aeth hi am sgan a darganfod fod calon y babi wedi stopio curo yn y groth. Roedd yn gyfnod torcalonnus iddi hi a'i phartner Gwion.
"O'n i jyst mewn gymaint o sioc. O'n i ddim isho derbyn bod o 'di digwydd," meddai wrth Newyddion S4C.
"O'dd y gofal ges i ar y dydd yn wych - fedra' i ddim faultio nhw am hynna. Ond symud ymlaen rŵan, 'dwi ddim rili'n gw'bod pa gefnogaeth sydd 'na i fi.
"Dwi yn cael diwrnodau drwg weithiau, mae o'n rwbath rili unig."
Ychwanegodd: "Yn enwedig i'r mamau sy' 'di colli babi'n gynnar yn eu tymor, 'does 'na ddim digon o gefnogaeth yna.
"Mae'n teimlo 'chydig bach fatha bod ni 'di cael push i'r ochr.
"Fasa petha' bach fatha midwife yn ffonio ni ar ôl 'chydig wythnosau, neu bod ni'n cael follow-up scan, neu grwpiau i famau."
A hithau'n ceisio dod i delerau efo'r golled, fe benderfynodd Alaw droi at y cyfryngau cymdeithasol i gael mwy o wybodaeth a chefnogaeth.
"O'n i'n teimlo fatha 'be' dwi 'di 'neud yn wrong...o'n i'n meddwl am bob dim o'n i 'di 'neud - petha' o'n i 'di fyta, petha' fel 'na. Pam bod hyn 'di digwydd i fi...tan i fi sylweddoli faint o bobl sydd yn mynd drwy hyn bob diwrnod.
"Dwi'n dallt pam bod pobl ddim isho siarad amdano fo achos mae o mor sensitif i bobl. Ond hefyd dwi'n meddwl bod 'na stigma o'i gwmpas o - 'dio ddim yn rwbath ti'n siarad amdan bod chdi 'di colli plentyn.
"Ond mae'n bwysig i bobl sylweddoli bod pobl yn mynd drwyddo fo."
'Pwysig'
Mae'r amcangyfrif o ran cyfraddau colli babi'n gynnar yn amrywio - gyda rhai elusennau'n dweud ei fod yn digwydd yn un o bob chwech beichiogaeth, ac eraill yn credu ei fod yn nes at chwarter.
Mae'n anodd gwybod yn union faint o achosion sydd yna am nad oes system ffurfiol i'w cofnodi, a rhai merched ddim hyd yn oed yn sylweddoli eu bod yn disgwyl ar y pryd.
Mae elusennau fel Sands yn galw ers blynyddoedd am system gofnodi drwy'r DU, a mwy o gydweithio rhwng y gwledydd datganoledig, er mwyn gallu cymharu data gwahanol ardaloedd dros amser.
Mae'r alwad honno'n cael ei chefnogi gan Fiona Hughes, o Ynys Môn, a sefydlodd elusen Pluen Wen. Mae'r elusen wedi bod yn ymgyrchu am dystysgrifau i fabanod oedd yn cael eu colli, waeth pa mor gynnar yn y beichiogrwydd - rhywbeth mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo'n genedlaethol erbyn hyn.
"Mae'n bwysig cofnodi ar gyfer gwaith ymchwil. Mae teuluoedd ac unigolion angen gwybod bod 'na waith ymchwil yn mynd i gael ei wneud ar y data sy' wedi cael ei gasglu ym mhob dalgylch.
"Hefyd mae'n bwysig ar gyfer yr unigolyn yna sydd wedi profi'r golled yn gwybod bod 'na gofnod swyddogol yn mynd i gael ei gadw."
Yn ôl arolwg diweddar gan elusen y Miscarriage Association - a holodd dros 1,000 o bobl ar draws y DU - roedd 65% yn dweud na chawson nhw ddigon o ofal ar ol colli plentyn, tra bod 68% wedi dioddef problemau iechyd meddwl, galar ac iselder.
Er bod enghreifftiau o ofal iechyd da, roedd 25.3% yn teimlo bod y gofal hwnnw'n anghyson ac yn amrywio rhwng ardaloedd.
Dywedodd Vicki Robinson, Prif Weithredwr y gymdeithas: “Mae gormod o fenywod a’u partneriaid yn cael eu methu gan system sy’n anghyson, yn anghyfartal ac yn rhy aml yn cael ei phennu gan siawns neu amgylchiadau.
"Mae llawer o enghreifftiau o ofal da yn bodoli, ac rydym yn gweithio i adeiladu ar y rhain trwy ein hyfforddiant arbenigol am ddim i weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
"Ond pan fydd cefnogaeth yn dibynnu ar ble rydych chi, gyda phwy rydych chi’n siarad, neu ba mor dda y mae systemau’n cysylltu, mae gormod o bobl yn wynebu niwed corfforol ychwanegol a thrallod seicolegol parhaol ar adeg sydd eisoes yn anodd.
“Rhaid i newid fod yn systemig. Dylai ôl-ofal clir a chyson yn dilyn colli babi fod ar gael i bawb. Nes ei fod yn cael ei gydnabod yn iawn, bydd gormod o bobl yn parhau i wynebu colli babi heb y gofal, y gefnogaeth a’r gydnabyddiaeth sydd ei angen arnyn nhw ac y maen nhw'n ei haeddu.”
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mae "colli babi ar unrhyw gam o feichiogrwydd yn brofiad gofidus iawn", a bod "pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn cynnig cymorth emosiynol a chorfforol drwy'r Gwasanaeth Asesu Beichiogrwydd Cynnar."
Ychwanegon nhw: "Mae ein Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant yn nodi sut y byddwn yn mynd ati ar draws y llywodraeth i wella iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys cefnogi pobl sydd wedi profi profedigaeth.
"Rydym yn parhau i weithio gyda Sands i ddatblygu a gweithredu llwybrau gofal profedigaeth cenedlaethol ar gyfer camesgoriad, marw-enedigaeth a cholli babanod. Disgwylir i'r rhain gael eu cyhoeddi cyn bo hir a byddant yn safoni'r ddarpariaeth cymorth a gofal i bob teulu yng Nghymru."
Yn y cyfamser, mae rhai fel Alaw yn awyddus i rannu ei phrofiad i wneud cyfnod tywyll fymryn yn haws i eraill.
"'Dan ni'n lwcus iawn fod ganddo ni ein merch, Nanw fach. 'Dan ni bob tro 'di d'eud 'sa ni'n licio dau o blant ond ar ol y profiad yma rwan, mae'n mynd i fod lot anoddach i fi dwi'n meddwl.
"Achos bod 'na y stigma 'ma o siarad amdano fo, mae o'n anodd siarad amdano fo. Ond dwi'n ddigon hapus i bobl yrru neges i fi os ydyn nhw'n mynd trwy rwbath tebyg a ddim cweit yn siwr sut mae o'n gweithio - dwi'n fwy na hapus i drafod efo pobl eraill."
Os ydych chi wedi cael eich heffeithio gan gynnwys yr erthygl hon, mae cefnogaeth ar gael yma.