Merch 17 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Nghwmbrân
Mae merch 17 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Nghwmbrân yn Sir Torfaen.
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi derbyn adroddiadau o wrthdrawiad ar ffordd yr A4042 yng Nghwmbran am 12:25 ddydd Iau.
Roedd thri char a cherddwr yn rhan o'r gwrthdrawiad yn ôl y llu.
Bu farw'r cerddwr, merch ifanc 17 oed o Gil-y-coed, yn y fan a'r lle, ac mae ei theulu wedi cael gwybod.
Mae'r ffordd rhwng cylchfannau'r Goron a'r Tyrpeg wedi'i chau'n rhannol, gydag un lôn i gyfeiriad y gogledd ar agor ar hyn o bryd.
Mae'r rhan tua'r de yn parhau ar gau ar hyn o bryd ac mae dargyfeiriadau yn eu lle.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2600046163.
