Menywod yn cyhuddo'r dyn busnes David Sullivan o'u hecsbloetio am ryw

David Sullivan

Rhybudd: Fe allai cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai.

Mae sawl menyw wedi cyhuddo’r dyn busnes, David Sullivan o gamddefnyddio ei rym er mwyn eu gorfodi i gael rhyw, yn ôl ymchwiliad ar y cyd gan BBC Panorama a The Times.

Mae’r cyhuddiadau, a gafodd eu gwneud gan saith menyw, yn dyddio yn ôl dros sawl degawd, gan gychwyn yn yr 1980au.

Roedd pob un o’r menywod yn eu harddegau hwyr neu ugeiniau cynnar ar y pryd ac yn chwilio am waith ar bapurau Daily Sport a Sunday Sport, oedd dan berchnogaeth Mr Sullivan.

Maent yn cyhuddo Mr Sullivan o’u hecsbloetio, drwy gynnig gwaith iddyn nhw am gyflawni gweithredoedd rhywiol.

Cafodd y biliwnydd, sy’n 77 oed, ei eni yng Nghaerdydd a’i fagu mewn tŷ cyngor ym Mhenarth cyn i’w deulu symud i Loegr.

Mae’n gwadu’r honiadau yn “unfrydol”.

Daw’r cyhuddiadau ddyddiau wedi i Mr Sullivan gamu i lawr o'i rôl fel cyd-gadeirydd clwb pêl-droed West Ham United. Roedd o wedi "dod yn ymwybodol o gyhoeddiad sydd ar ddod o honiadau hanesyddol difrifol,"meddai.

Dywedodd datganiad gan Mr Sullivan fore Sadwrn: "Rwyf wedi dod yn ymwybodol yn ddiweddar fod honiadau degawdau oed sy'n ymwneud â fy mywyd personol, sy'n ffeithiol anghywir ac yn gwbl ffug, ar fin cael eu darlledu a'u cyhoeddi."

Ychwanegodd: "Mae’r honiadau ffug a wnaed yn fy erbyn wedi cael eu gorliwio gan y cyfryngau.

"Ar ôl treulio oes yn adeiladu busnesau yn y diwydiant oedolion, lle rwyf wedi cwrdd â miloedd o fenywod, mae'n anochel, yn anffodus, bod nifer fach o honiadau ymddygiad amhriodol yn cael eu gwneud yn fy erbyn. Rwy'n gwadu'r honiadau hyn yn bendant."

Gwnaeth Mr Sullivan ei ffortiwn o fod yn berchen ar gylchgronau pornograffig a siopau rhyw.

Mae mwyafrif y menywod sydd wedi cyfrannu i’r ymchwiliad wedi dweud eu bod am aros yn ddienw.

Mae’r ymchwiliad wedi canfod bod wyth menyw wedi rhannu gwybodaeth am ymddygiad Mr Sullivan gyda Heddlu’r Met neu Heddlu Essex yn y gorffennol, gan gynnwys un fenyw oedd yn rhan o ymchwiliad Panorama a The Times.

Ni chafodd ei gyhuddo o unrhyw drosedd gan yr heddluoedd.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.