Medal arian i Jeremiah Azu yn y ras 100m ym Mhencampwriaethau Ewrop

Jeremiah Azu 2026 (Reuters)

Fe enillodd y rhedwr o Gymru Jeremiah Azu fedal arian yn y ras 100m ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Birmingham nos Fawrth.

Daeth y gŵr o Gaerdydd yn ail yn y ras mewn amser o 10.16, y tu ôl i’r enillydd oedd hefyd yn cynrychioli Prydain, Romell Glave, a enillodd mewn 10.09.

Roedd yn ganlyniad calonogol i Azu ar ôl methu allan ar fedal yng Ngemau’r Gymanwlad fis diwethaf hefyd, lle orffennodd yn bumed, er iddo gwblhau’r ras mewn 10.03 yn y rownd derfynol.

Dywedodd Azu nos Fawrth ei fod wedi bod yn “flwyddyn galed.”

“O ran rasio, mae wedi bod y tymor mwyaf anghyson.

“Pan mae’n dod i’r pencampwriaethau, dwi’n gwybod dwi’n gallu canfod fy ngorau. Da ni wastad yn dweud bod amseroedd yn amherthnasol ar y pwynt yma – rwyt ti eisiau mynd mas yna a rasio am fedalau.

“Dwi eisiau rhoi fy mherfformiad gorau yn y ffeinal a dwi’n teimlo fel fy mod i wedi gwneud hynny heno. Rwyt ti wastad eisiau bod ar y podiwm. Yn y 100m, mae 100 o bobl sy’n gystadleuol, felly mae wastad yn anodd.”

Llun: Jeremiah Azu (Reuters)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.