Matt Brittin yn dechrau ei waith fel Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd y BBC
Fe fydd Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd y BBC yn dechrau yn ei swydd ddydd Llun, a hynny mewn cyfnod heriol i'r gorfforaeth.
Yn dilyn ymadawiad Tim Davie, Matt Brittin sydd wedi cael y swydd o lywio'r corff darlledu am y blynyddoedd nesaf.
Mae Mr Brittin yn 57 oed ac roedd wedi gweithio am bron i 20 mlynedd gyda chwmni Google, gan ddod yn llywydd ar y cwmni yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica, nes iddo gyhoeddi ei benderfyniad i adael y llynedd.
Cyhoeddodd Davie, a oedd wedi bod yn y swydd ers 2020, ei ymddiswyddiad ym mis Tachwedd y llynedd, ynghyd â phrif weithredwr BBC News Deborah Turness, yn dilyn sgandal am y ffordd y cafodd araith gan Donald Trump ei golygu ar raglen Panorama.
Mae'r BBC yn wynebu toriadau ariannol hefyd, gyda disgwyl y bydd diswyddiadau staff yn dilyn yn ddiweddarach y flwyddyn hon wrth i'r esgid wasgu.
Cafodd Mr Brittin ei ddewis yn aelod o dîm rhwyfo Olympaidd Prydain yn Seoul 1988 ac enillodd fedal efydd ym Mhencampwriaethau Rhwyfo'r Byd ym 1989.
Rhwyfodd y cyn-fyfyriwr o Gaergrawnt hefyd yn y Ras Gychod rhwng Caergrawnt a Rhydychen ym 1987, 1988 a 1989.
Pan gafodd ei benodi ym mis Mawrth eleni, dywedodd Mr Brittin: “Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen BBC ffyniannus arnom sy’n gweithio i bawb mewn byd cymhleth, ansicr, sydd yn newid yn gyflym.
"Ar ei orau, mae’n dangos i ni, ac i’r byd, pwy ydym ni. Mae’n ased eithriadol, unigryw ym Mhrydain, gyda dros 100 mlynedd o arloesedd mewn adrodd straeon, technoleg a phweru creadigrwydd.
"Mae’n anrhydedd ac rwyf yn gyffrous i gael fy ngofyn i wasanaethu fel Cyfarwyddwr Cyffredinol."