Marwolaeth Rhys Jenkins: Dau frawd yn gwadu rasio cyn gwrthdrawiad

Rhys Jenkins
Rhys Jenkins

Mae dau frawd sydd wedi eu cyhuddo o achosi marwolaeth dyn mewn gwrthdrawiad yn gwadu eu bod wedi bod yn rasio cyn y digwyddiad.

Bu farw Rhys Jenkins, 41 oed, o Bowys, yn dilyn y gwrthdrawiad ar ffordd yr A483 i’r de o’r Trallwng ar 16 Tachwedd 2024.

Cafodd ei fab naw oed hefyd ei anafu’n ddifrifol yn y digwyddiad.

Mae Abubakr Yusaf, 31 oed, ac Umar Yusaf, 35 oed, o Fanceinion, yn gwadu achosi marwolaeth Mr Jenkins drwy yrru’n beryglus. 

Mae’r ddau frawd hefyd yn gwadu achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus.

Mae Abubakr Yusaf hefyd wedi ei gyhuddo o yrru car heb yswiriant.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau, dywedodd y brodyr eu bod “yn credu eu bod yn goddiweddyd yn ddiogel.”

Wrth gael ei groesholi gan David Mainstone ar ran yr erlyniad, fe wnaeth Abubakr Yusaf fynnu nad oedd yn "ddiamynedd tra'n gyrru" a nad oedd yn credu ei fod yn "dychryn neb ar y ffordd.”

Roedd y brodyr yn gyrru ceir Audi a BMW rhwng 18:00 a 18:30 pan fu farw Rhys Jenkins, clywodd y rheithgor.

Dywedodd Mr Mainstone wrth Abubakr Yusaf: "Fe wnaethoch chi golli rheolaeth. Ai'r rheswm dros hynny yw eich bod yn gyrru ar gyflymder gormodol?" 

Fe wnaeth Abubakr anghytuno.

Ychwanegodd ei fod wedi "colli gafael" ar y ffordd oherwydd "newid sydyn yn arwynebedd y ffordd."

'Di-hid a chyflym'

Dywedodd Mr Mainstone fod data o'r BMW yn dangos fod Abubakr Yusaf yn gyrru mwy na 63mya pan darodd Rhys Jenkins.

Fe ddadleuodd fod Mr Yusaf yn gyrru'n "sylweddol gyflymach" na hynny cyn y gwrthdrawiad a'i fod yn gyrru'n "ddi-hid ac yn gyflym."

Credai Mr Yusaf ei fod yn "gyrru ar gyflymder o gwmpas y terfyn cyflymder... efallai ambell i filltir yr awr yn uwch."

Roedd y brodyr yn teithio o Aberystwyth adeg y digwyddiad.

Wrth gael ei gwestiynu gan Sean Minihan ar ran yr amddiffyniad, dywedodd Abubakr Yusaf nad oedd wedi cysylltu gyda na gweld ei frawd ar y daith o Aberystwyth.

Ychwanegodd nad oedd yn ceisio ffoi yn sydyn ar ôl y digwyddiad.

Dywedodd David Mainstone ar ran yr erlyniad fod y brodyr wedi gyrru i faes parcio Tesco yn yr Audi.

Honnodd fod Abubakr Yusaf wedi gallu lawrlwytho ap yswiriant ar ei ffôn symudol mewn ymgais i geisio ôl-ddyddio ei bolisi yswiriant.

Wrth amlinellu achos yr erlyniad yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun, dywedodd y bargyfreithiwr David Mainstone fod Abubakr Yusaf wedi colli rheolaeth ar gar BMW ar ôl gyrru’n gyflym a goddiweddyd yn beryglus.

Mae'r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.