Mam a merch o Ben Llŷn yn cwblhau marathon pobi cacennau am dros 26 awr

Sioned Erin a Lois Hughes

Mae mam a merch o Ben Llŷn wedi cwblhau her 26 awr a 12 munud yn pobi cacennau er mwyn codi arian at ddau achos sy’n agos iawn at galonnau’r teulu.

Dechreuodd Lois Mererid Hughes a’i merch, yr awdures Sioned Erin Hughes, yr her am 06:00 fore Gwener, gyda’r bwriad o bobi tan 08:12 fore Sadwrn.

Mae’r 26 awr a 12 munud yn cyfateb i nifer y milltiroedd mewn marathon, gyda’r arian wedi’i gasglu ac o werthu’r cacennau yn cael ei rannu rhwng Cronfa Mesen ac Ysbyty Alder Hey.

I Erin, bu'r her hefyd yn gyfle i ddiolch i’w mam am ei chefnogaeth dros y blynyddoedd:

“Mam ydi’r person mwyaf anhunanol ar wyneb y ddaear, felly dydi ei gweld hi'n mynd i'r afael efo'r her yma ddim yn sioc, ond ar yr un gwynt, mae 'na falchder mawr,” meddai wrth Newyddion S4C.

“Fi na'th aros efo hi yn ystod oriau mân y bore! Felly dwi'n gobeithio 'mod i wedi cael y cyfle i fod yn gynhaliaeth iddi hi am unwaith.

“Arwydd bach o ddiolch am y blynyddoedd mae hi wedi fy nghynnal i.” meddai Erin.

‘Marathon yn y Gegin'

Syniad Lois oedd cynnal marathon pobi, ar ôl iddi fod yn chwilio am ffordd wahanol o godi arian.

“Oeddwn i ‘di bod yn meddwl am sialens codi arian ers sbel hir, a methu’n lân a meddwl am rywbeth gwahanol fuasai’n gweithio!”

Esboniodd Lois sut iddi feddwl i’w hun na fyddai’n gallu rhedeg marathon, ond un peth y mae hi yn gallu ei wneud yn “reit dda” yw “pobi cacennau”:

“A dyna roi y ddau beth at ei gilydd a dod i fyny efo Marathon yn y Gegin,” meddai.

Image
Lois Mererid Hughes yn pobi
Ymhlith yr hyn fydd yn cael ei bobi yn ystod yr her mae cacennau bach, bara brith, tiffins a fflapjacs.

'Rhywbeth dwi'n ei gario efo fi bob dydd'

Mae gan y teulu gysylltiad arbennig ag Ysbyty Alder Hey, lle bu Erin yn derbyn triniaeth am bedwar mis ar ôl cael diagnosis o Myasthenia Gravis ychydig flynyddoedd yn ôl, cyflwr prin sy’n achosi gwendid yn y cyhyrau.

“Mae ‘na rywbeth od yn digwydd i amser pan dwi’n meddwl yn ôl i ‘nghyfnod yn Alder Hey,” meddai Erin.

“Mae o'n fywyd arall ac eto, mae'n rhywbeth dwi'n ei gario efo fi bob dydd. Mae'r un peth yn wir wrth feddwl am y blynyddoedd dyrys hynny efo fy iechyd meddwl.”

Image
Sioned Erin Hughes
Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022

Yn wreiddiol o Foduan ym Mhen Llŷn, mae Erin wedi ysgrifennu a golygu sawl llyfr yn cynnwys ei diweddaraf, Y Môr ac Eli Moi, nofel newydd i blant.

Daeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed yn 2018, a daeth yn ail am y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.

Er ei buddugoliaeth yn 2018, methodd â bod yn bresennol yn y seremoni oherwydd salwch o’r cyflwr prin y mae’n dioddef ohono, Myasthenia Gravis.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022, cipiodd Erin y Fedal Ryddiaith mewn cystadleuaeth a ddenodd 17 o ymgeiswyr.

Mewn cyfweliad teledu dirdynnol ar ôl y seremoni honno, fe siaradodd Erin, yn 24 oed ar y pryd, yn gyhoeddus am ei hiechyd meddwl.

Ers hynny, mae hi wedi sefydlu Cronfa sy’n casglu arian at ddibenion gwella iechyd meddwl yng Nghymru.

Erbyn mis Tachwedd 2026, mae Cronfa Mesen wedi ariannu gwerth 200 awr o gwnsela am ddim drwy gyfrwng y Gymraeg.

'Dileu'r rhwystr ariannol'

Fe fydd yr arian yn cael ei rannu rhwng y Gronfa a’r Ysbyty – sy’n bwysig iawn i’r teulu meddai Lois nid yn unig oherwydd y “gofal arbennig” a gafodd Erin yno, ond hefyd am fod ei hŵyr wedi derbyn triniaeth yno ar ôl cael ei eni’n wael iawn yn gynharach eleni.

Ac yna fe fydd rhan o’r arian hefyd yn mynd tuag at Gronfa Mesen, wedi’i sefydlu gan Erin yn dilyn ei phrofiadau ei hun o salwch meddwl.

Dywedodd Erin fod y gronfa bellach yn cyflogi dwy fenyw i gynnig gwasanaeth cwnsela ym Mhen Llŷn.

“Rydyn ni'n cynnig hyd at 20 sesiwn o gwnsela am ddim i ddechrau, ond hyd yn oed wedyn, os ydi'r angen yno am fwy, rydyn ni'n agored iawn i gynnig hynny," meddai.

“Rydyn ni'n parchu'r ffaith nad ydi 20 sesiwn am ddim yn ddigonol ym mhob achos, ac yn teimlo'n angerddol dros ddileu'r rhwystr ariannol ar hyd y daith.”

Ychwanegodd Lois fod cael cefnogi’r gronfa yn “fraint”.

“Mae Mesen wedi egino o le tywyll iawn i gynnig gobaith a chymorth proffesiynol am ddim i rai sy’n poeni ac yn dioddef gyda’u hiechyd meddwl,” meddai.

Cefnogaeth gan y gymuned

Dywedodd Erin fod “asgwrn elusengar tu mewn” i bawb ym Mhen Llŷn, gan ddiolch i Harlech Frozen Foods, Castell Howell, Hufenfa De Arfon a wyau o fferm Crugeran am eu nawdd.

“Mae cefnogaeth pobl i’r sialens yma wedi bod yn arbennig. ‘Dyn ni’n hynod ddiolchgar i bawb, diolch diolch bawb!” meddai Lois.

Bydd cacennau’r marathon ar werth yn Siop Cigydd Povey’s, Chwilog, ddydd Sadwrn 28 Tachwedd, ac ym Mochras Isaf ym Moduan ddydd Sul 29 Tachwedd, rhwng 14:00 a 17:00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.