Mam o Gaerdydd yn rhan o dreialon llwyddiannus am driniaeth amgen i gemotherapi
Mae mam o Gaerdydd wedi cymryd rhan mewn treialon clinigol am driniaeth a all gynnig opsiwn gwahanol i gemotherapi i gleifion canser.
Mae’r treialon gan University College London (UCL), wedi cynnal profion ar dros 4,400 o gleifion canser yn y DU, Norwy, Sweden, Awstralia, Seland Newydd a Gwlad Thai.
Mae’r triniaeth yn defnyddio prawf genynnau o’r enw Prosigna, sy’n mesur gweithgaredd genynnau mewn tyfiant tiwmorau canser y fron.
Fe wnaeth canlyniadau’r treialon ddangos bod dwy ran o dair o’r bobl a gymerodd rhan, a wnaeth sgorio'n isel ar y prawf Prosigna, yn gallu derbyn triniaeth therapi hormon ar eu pen eu hunain.
Er bod sgil effeithiau i gleifion, mae’r brifysgol yn credu y gallai dros 5,000 o gleifion yn y Gwasanaeth Iechyd osgoi triniaeth cemotherapi o ganlyniad i’r treialon.
'Brawychus'
Ar ôl derbyn diagnosis o ganser y fron ym mis Mehefin 2017, dywedodd Karen Bonham o Gaerdydd bod y syniad o dderbyn cemotherapi yn achosi pryder iddi hi.
Dywedodd: “Gall diagnosis a thriniaeth canser fod yn frawychus. Mae’n sicr yn eich gwthio i fyd o ansicrwydd.
“Mae blaenoriaethau bywyd yn newid – rydych chi eisiau goroesi yn unig.
“Mae bywyd yn sicr yn mynd yn brysur – corwynt o apwyntiadau, gwybodaeth a gwneud penderfyniadau cyflym.
“A phob dim wrth geisio cadw ymdeimlad o normalrwydd i’ch teulu, yn enwedig pan allai plant fod yn wynebu arholiadau TGAU, arholiadau prifysgol.”
Yn fam i ddau o blant ac wedi gweithio fel therapydd lleferydd ac iaith, cytunodd Ms Bonham i gymryd rhan yn y treialon yn y gobaith y byddai'n osgoi derbyn cemotherapi.
I drin ei chanser, fe dderbyniodd radiotherapi a therapi hormon dros gyfnod o wyth mlynedd.
Roedd cael osgoi cemotherapi yn teimlo fel cymysgedd o "ryddhad" a "theimlo fel Nadolig", meddai
Naw mlynedd ers derbyn y diagnosis, mae Ms Bonham yn dweud nad yw canser yn ei diffinio hi. Yn 64 mlwydd oed, mae hi’n parhau i fyw bywyd teuluol arferol ac yn mwynhau cadw’n actif, cerdded ac ymarfer ioga.
Dywedodd yr Athro Rob Stein, athro oncoleg y fron yn Sefydliad Canser UCL: “Mae’r canlyniadau hyn yn nodi cam pwysig ac arwyddocaol tuag at driniaeth fwy personol.
“I gleifion, mae hyn yn golygu y gallai llawer gael eu harbed rhag baich corfforol ac emosiynol cemotherapi a’i sgîl-effeithiau hirdymor posibl.”
Nid oes sicrwydd eto a yw’r canfyddiadau’n berthnasol i bobl o dan 40 oed, meddai UCL.
