'Mae'n meddwl lot': Casi Gregson o Geredigion yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf
'Mae'n meddwl lot': Casi Gregson o Geredigion yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf
Mae ymosodwr Newcastle United, Casi Gregson, yn dweud bod cael ei henwi yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf yn "meddwl lot" iddi.
Fe fydd Cymru yn wynebu Albania yng nghymal cyntaf rownd gyn-derfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd y menywod nos Wener.
Yn 18 oed, mae Casi Gregson o Lambed yng Ngheredigion newydd arwyddo ei chytundeb proffesiynol cyntaf gyda Newcastle United.
O fewn ychydig ddyddiau, fe gafodd hi hefyd ei chynnwys yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf i wynebu Albania.
Wrth siarad cyn y gêm, dywedodd Gregson: "Merch o Llanbed ydw i, so ardal bach yn Ceredigion.
"So wnes i tyfu lan yn warae gyda'r bechgyn, a wedyn o'n i'n ddiolchgar iawn i Mam cael dechrau tîm o dan 14 a o dan 16 i ni gallu cario 'mlaen yn warae, a ie aeth e ymlaen o 'ny wedyn a nawr dwi lan yn Newcastle."
Wedi iddi gael ei henwi yn y garfan i wynebu Albania, dywedodd Gregson bod ei theulu wedi gwirioni.
"Dad, o'dd ddim geiriau gyda fe i fod yn onest, o'dd mam yn dagrau, a ie mam-gu a tad-cu o'n nhw jyst yn dagrau 'fyd. Nan a grandad, anti, wncl," meddai.
"Honestly o'dd pawb yn dagrau a fi'n credu o nhw'n fwy prowd a jyst wedon nhw mater o amser o'dd e cyn i hwn digwydd.
"So jyst i fod 'ma nawr, ie ma'n amazing."
Ychwanegodd: "Ti'n tyfu lan a ti'n edrych ar bob chwaraewr, a ma' nhw gyd yn ysbrydoli ti bob dydd.
"Bydden i'n watcho bob gêm menywod Cymru. Ond ie nawr, i warae gyda nhw, ma' fe'n meddwl lot i mi."
'Perfformiad cryf'
Bydd tîm Rhian Wilkinson yn teithio i Shkoder, cyn chwarae'r ail rownd gyn-derfynol yn erbyn Albania nos Fawrth nesaf yn Llanelli.
Fe wnaeth Cymru guro Albania ddwywaith yn ystod yr ymgyrch ragbrofol ym mis Ebrill, gyda buddugoliaeth 4-0 gartref a 1-0 oddi cartref.
Ond fe fydd nifer o absenoldebau, gyda naw aelod allan o'r garfan gan gynnwys Olivia Clark, Hayley Ladd, Ffion Morgan a Ceri Holland.
Wrth siarad cyn y gêm, dywedodd Wilkinson mai "peidio ildio a pherfformiad cryf" fyddai'n ddelfrydol o'r gêm gyntaf.
"Dw i'n meddwl y byddai hi'n wirion ohonof i ddweud fod cael naw o anafiadau i'w ddisgwyl," meddai.
"Pe bawn i wedi gallu osgoi anafiadau, byddwn i wedi gwneud hynny, ond ar yr un pryd, pêl-droed yw hyn ac rydym yn addasu ac rydym yn wlad fach.
"Dw i ddim yn meddwl bod modd honni bod gennym ni nifer diddiwedd o chwaraewyr, felly mae'r ffaith fy mod i'n gallu llunio tîm o 23 sydd â chymaint o gryfder a phrofiad helaeth yn beth da."
Fe wnaeth Cymru orffen ar frig eu grŵp yn dilyn buddugoliaeth sylweddol yn erbyn y Weriniaeth Tsiec yng ngêm ola'r grwp ym mis Mehefin.
Mae Albania yn 68 yn rhestr detholion y byd, 37 safle yn is na Chymru.
Ond mae Wilkinson yn disgwyl gêm heriol arall yn erbyn "tîm sy'n gwybod yn iawn beth yw eu cryfderau".
Pe bai Cymru yn curo Albania, yna fe fyddan nhw yn wynebu rownd derfynol dros ddwy gêm yn erbyn naill ai Norwy neu Romania ddechrau Rhagfyr.
