‘Mae unrhyw beth yn bosib’: O salwch difrifol i lwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd
Fe lwyddodd bachgen pum mlwydd oed o Sir Gaerfyrddin mewn dwy gystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd ar ôl goroesi salwch a oedd mor ddifrifol nes bod ei rieni yn pryderu am ei fywyd.
Fe enillodd Elis Lewis, o Ysgol Gymraeg Rhydaman, gystadleuaeth Unawd Cerdd Dant Bl.2 ac Iau, a daeth yn ail yn y Llefaru Unigol Bl.2 ac Iau.
Ond tair blynedd yn ôl, ac yntau’n ddwy oed, roedd yn ddifrifol wael gan ddioddef o lid yr ymennydd (encephalitis).
Mae’r salwch yn gallu bygwth bywyd plentyn ac mae angen triniaeth frys yn yr ysbyty. Yna roedd angen triniaeth arno i allu cerdded a llyncu eto.
Dywedodd ei fam, Nia Lewis, nad oedd ganddi “eiriau” wrth ei weld yn llwyddo yn yr Eisteddfod.
“Emosiynol, balch... ecstatig drosto fe,” meddai.
“Roedden ni wedi gorfod trafod o’r blaen a oedd e’n mynd i allu mynd i ysgol prif ffrwd? A fyddai e’n gallu cyfathrebu gyda ffrindiau?
“A fyddai e'n gallu cerdded heb help? Mae’r holl bethau yma wedi mynd drwy ein meddyliau ni.
“Felly mae eistedd yno’n gwylio ein mab sy’n bump oed ar y llwyfan yn gwneud ei deulu i gyd yn falch – mae unrhyw beth yn bosib. Mae wedi profi hynny i ni.”
‘Trawmatig’
Dywedodd Nia Lewis ei bod yn anodd esbonio sut brofiad oedd “cael gwybod gan feddyg ei fod e’n cwffio am ei fywyd”.
“Fe gysgodd am tua 72 awr heb ddeffro, heb siarad, heb ein hadnabod ni o gwbl," meddai.
“Fe gollodd ei falans ar y pwynt yna hefyd, fe gollodd ei symudedd i gyd. Ar ryw bwynt roedden ni’n meddwl, ‘’de ni’n mynd i’w golli e’.
“Y rhan o’r ymennydd a gafodd ei heffeithio fwyaf oedd y rhan a oedd yn gyfrifol am ei anadlu.
“Am ei fod yn haint feirol, doedd dim triniaeth – dim ond amser.
“Roedd angen gweithio gyda’r tîm iaith a lleferydd am ei fod wedi colli ei allu i lyncu.
“Roedd y tîm ffisiotherapi yn trio adfer ei gynhyrau a trio adfer ei allu i gerdded a’i falans.
“Roedd yn gyfnod trawmatig iawn a bod yn onest.”
Wedi’r profiad hwnnw, roedd ei weld yn perfformio ar y llwyfan yn yr Eisteddfod yn brofiad bythgofiadwy i’r teulu cyfan.
“Roedd yn anhygoel,” meddai Elis Lewis. “Y teimlad gorau dwi wedi ei gael.
“Bob tro dwi’n canu, mae mam a dad yn caru fe.”