'Lwcus i gael Aled': Mam a merch i gerdded i Macchu Picchu ar ôl colled deuluol

Sian, Sylvia a Rhiannon
Sian, Sylvia a Rhiannon

Bydd mam a mam-gu bachgen o Sir Gâr yn cerdded i Machu Picchu ym Mynyddoedd yr Andes ym Mheriw i godi arian ar gyfer hosbis Tŷ Hafan, er cof amdano wedi ei farolwaeth yn ddwy flwydd a hanner oed.

Cafodd Aled, mab Sian Milligan, 44, ei eni yn 2006 gyda Syndrom Down a nifer o dyllau yn ei galon.

Er iddo frwydro i ddysgu cerdded a chyfathrebu drwy iaith arwyddion, bu farw Aled ar 13 Ebrill 2009.

Dywedodd Ms Milligan, sy'n weithiwr gofal cymunedol, ei bod wedi bod "mewn sioc llwyr" yn dilyn ei farwolaeth.

"Roedd wedi bod trwy gymaint ag wedi ymladd cymaint i fwynhau bywyd. Nes i feddwl wrth fy hun: ‘All e ddim mynd yn ôl nawr.’ Ond yna nes i feddwl pa mor anodd oedd hi iddo anadlu," meddai.

"Yn y diwedd, firws syml wnaeth ei ddinistrio a doedd dim y gallen nhw ei wneud. Roeddwn i’n lwcus bod gen i Aled am yr amser roedd e gen i."

Er cof am Aled, bydd Sian a'i mam Sylvia Wallace, 71, yn cymryd rhan mewn taith gerdded 11 diwrnod i Machu Picchu i godi arian ar gyfer hosbis Tŷ Hafan ym Mro Morgannwg.

"Roedd Tŷ Hafan yn wych gydag Aled, cafodd amseroedd mor hyfryd yno. Roedd wrth ei fodd gyda'r ystafell synhwyraidd, y gadair siglo a'r ystafell gerddoriaeth," meddai Ms Milligan.

"Roedd yr hosbis yn rhywle lle gallwn i aros a bod yn fam iddo, nid yn nyrs iddo. Roeddwn i'n gallu cael saib ac roedd y gofal yn wych."

Mae Tŷ Hafan yn cefnogi tua 300 o blant gyda salwch sy'n cwtogi bywyd a thua 3,000 o aelodau teulu bob blwyddyn.

Image
Aled Milligan
Cafodd Aled ei eni gyda Syndrom Down a nifer o dyllau yn ei galon

Ychwanegodd Ms Milligan bod ei mab Kyle, a oedd yn bedair oed pan gollodd ei frawd, hefyd wedi elwa o gefnogaeth Tŷ Hafan.

"Roedden nhw’n gefnogol iawn ac roedd y gefnogaeth a ddangoson nhw i Kyle yn eithriadol, gan ei gefnogi i ddeall a galaru," meddai.

Cafodd ei merch, Rhiannon, ei geni dri mis ar ôl i Aled farw ac mae hi bellach yn 16 oed.

"Mae Kyle, sydd bellach yn 21 oed, a Rhiannon wedi mwynhau’r cyfarfodydd brodyr a chwiorydd yn Nhŷ Hafan dros y blynyddoedd," meddai.

"Mae’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnal yn Nhŷ Hafan hefyd yn ffordd sy’n ein helpu ni i gyd gyda’n galar."

Image
Aled a Kyle Milligan
Aled (chwith) a'i frawd mawr Kyle (dde)

Er bod Sian yn dweud bod yr her gerdded yn ei "chyffroi", mae hi'n wynebu heriau iechyd ei hun.

Yn dilyn diagnosis o anhwylder niwrolegol swyddogaethol (FND), mae'n rhaid iddi wisgo sblintiau ar ei fferau i’w galluogi i gerdded.

"Rydyn ni i gyd wrth ein bodd yn yr awyr agored a dydw i ddim yn gwybod beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig i mi," meddai.

"Felly, dw i’n ceisio cadw fy nghoesau mewn cyflwr mor dda â phosibl. Kyle ddywedodd y byddai’n fy nghael i fyny Machu Picchu fel nod i mi anelu ato.

"Yna, nes i weld fod Tŷ Hafan yn rhedeg y daith gerdded codi arian i Machu Picchu a dyna ni."

Ychwanegodd: "Allwn ni ddim hyfforddi ar gyfer yr uchder felly mae’r cyfan yn ymwneud â’r stamina i ni nawr. 

"Ond yn fy marn i, dyw cerdded i fyny Machu Picchu yn ddim byd o’i gymharu â’r hyn a aeth fy ddau fab drwyddo."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.