Llywodraeth Cymru 'yn awyddus i gynnal Gemau Olympaidd 2040 ar y cyd â gogledd Lloegr'

Ken Skates

Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n awyddus i Gymru chwarae rhan wrth gynnal Gemau Olympaidd 2040 neu 2044.

Wrth siarad â WalesOnline dywedodd Ken Skates y byddai'n awyddus i leoliadau yng ngogledd Cymru gael eu defnyddio, gan gynnwys y Cae Ras yn Wrecsam a Chaergybi ar gyfer hwylio.

Daw wedi i Fanceinion a Lerpwl ddangos diddordeb mewn cynnal y gemau ar y cyd bryd hynny.

Dywedodd Maer Maneicion, Andy Burnham, ei fod yn credu y byddai cynnal y gemau yn “syniad gwych”.

Ychwanegodd na fyddai’n “deg nac yn iawn” i Lundain gynnal y digwyddiad unwaith eto ar ôl gwneud hynny yn 2012 a bod cais o’r gogledd yn “beth sydd ei angen ar Brydain ar hyn o bryd”.

Dywedodd Ken Skates, sy’n Ysgrifennydd Gogledd Cymru a Trafnidiaeth, y byddai yn hoffi gweld rhai o’r digwyddiadau yn cael eu cynnal dros y ffin yng Nghymru hefyd.

"Yn sgil trafodaethau gydag arweinwyr rhanbarthol yn Lloegr, rydym wedi gallu trafod ymhellach y manteision y gallai buddsoddiad go iawn ei ddarparu – er enghraifft ein bwriad i ymuno â chais ar gyfer y Gemau Olympaidd yn 2040 neu 2044,” meddai.

"Byddai'r Gemau Olympaidd, yn fy marn i, yn wych yn ymestyn o Gaergybi i Hull, gan ddefnyddio rhai o'n cestyll gwych.

"Rwy'n gwybod bod Llundain wedi mynegi awydd i wneud cais eto – ond rwy'n credu y byddai'n heriol iawn cyfiawnhau pedwerydd Gemau Olympaidd yn Llundain pan nad yw'r Gemau wedi cael eu cynnal yn unman arall yn y DU.

 “Ac rwy'n credu y byddai Gemau Mawr y Gogledd yn ffordd bwerus o ailgydbwyso economi'r DU.

"Mae'r Euros ar y gorwel, y Tour de France, Cwpan Ryder - mae gennym lawer o bobl sydd â phrofiad yn y maes.”

Mae pwy sy'n cynnal y Gemau Olympaidd fel arfer yn cael ei benderfynu rhwng saith a 14 mlynedd o flaen llaw, er mwyn rhoi amser i ddinasoedd baratoi.

Mae'r Almaen a'r Eidal eisoes yn ystyried ceisiadau ar gyfer y Gemau Olympaidd yn 2040.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.