Llywodraeth Cymru ddim yn gwybod beth yw cost y gwaith o drwsio Pont Menai ers 2022
Mae Newyddion S4C wedi darganfod nad yw Llywodraeth Cymru'n gwybod beth yw cost y gwaith o drwsio Pont Menai ers i'r gwaith hwnnw ddechrau ar ddiwedd 2022.
Nid yw'r llywodraeth chwaith wedi gofyn i'r cwmni sydd yn gyfrifol am y gwaith am union gost atgyweirio'r bont.
Mae'r gwaith ar y bont, sydd yn cysylltu Ynys Môn â'r tir mawr, wedi bod yn digwydd ers Hydref 2022 yn dilyn pryderon am ei diogelwch a phroblemau strwythurol.
Ers hynny, mae'r bont hanesyddol, sy'n dathlu ei 200 mlwyddiant eleni, wedi gorfod cau yn gyson.
Fe wnaeth Newyddion S4C anfon Cais Rhyddid Gwybodaeth at Lywodraeth Cymru yn gofyn faint y mae'r llywodraeth wedi ei wario hyd yma ar Bont Menai ers i waith ddechrau arni bron i bedair blynedd yn ôl.
Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi hawl cyfreithiol i wneud cais am wybodaeth sydd gan gyrff cyhoeddus.
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru mai cwmni UK Highways A55 Ltd (UKHA55 Ltd) sy’n gyfrifol am gynnal, cadw ac atgyweirio ffordd yr A55, gan gynnwys y pontydd dros y Fenai.
“O ganlyniad, y contractwr sy’n gyfrifol am y costau sy’n gysylltiedig â’r gwaith atgyweirio hwn, nid Llywodraeth Cymru."
Mae UK Highways A55 Ltd yn gwmni preifat, ac mewn achosion arferol nid oes angen i gwmnïau ymateb i Geisiadau Rhyddid Gwybodaeth.
Fe ofynnodd Newyddion S4C sawl tro i UK Highways A55 Ltd am gost y gwaith ar y bont, ond fe ddywedodd y cwmni eu bod yn cydlynu eu hymateb gyda Llywodraeth Cymru.
Gofynnodd Newyddion S4C am adolygiad mewnol gan y llywodraeth i'w hymateb gwreiddiol i'n Cais Rhyddid Gwybodaeth.
Ein dadl oedd y dylid rhyddhau'r wybodaeth am fod UK Highways A55 Ltd yn gweithio ar ran Llywodraeth Cymru wrth atgyweirio Pont Menai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn ymateb nad ydynt "yn dal yr wybodaeth ariannol benodol y gofynnwyd amdani" - sef y costau atgyweirio ers 2022.
Nid oeddent chwaith wedi gofyn na derbyn y manylion am gostau'r holl waith ar Bont Menai gan UK Highways A55 Ltd.
Eu hesboniad oedd nad oedd y cytundeb cyffredinol am waith y contractwr ar yr A55 wedi ei dorri i rannau unigol fyddai'n rhoi union gost y gwaith o atgyweirio Pont Menai iddyn nhw.
Ychwanegodd y llywodraeth: "Oherwydd nad yw’r costau’n ychwanegol ond yn rhan o’r gwaith cyflawni contract cyffredinol a gytunwyd cyn y dyddiadau dan sylw, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gofyn am y ffigurau hynny nac wedi’u derbyn, gyda’r gost yn cael ei hysgwyddo gan y contractwr."
Gofynnodd Newyddion S4C hefyd faint y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wario hyd yma ar yr opsiwn o gael trydydd croesiad dros y Fenai.
Dywedodd y Llywodraeth eu bod wedi gwario £1,681,444 ar waith sy’n ymwneud â’r opsiwn o drydydd croesfan.
Ychwanegodd fod disgwyl i'r gwaith atgyweirio ar y bont gael ei gwblhau yn ystod Gwanwyn 2027.
Mae Dyfed Parry yn gweithio fel Therapydd Chwaraeon ym Mhorthaethwy ger Pont Menai, yn ogystal â byw yn y dref.
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Mr Parry: "O safbwynt personol, ma' hi wedi bod yn bedair blynedd rhwystredig iawn i drigolion yr ardal. 'Gosa ti'n byw yn yr ardal, dwi'm yn meddwl bod pobl yn sylwi ar yr effaith mae o wedi ei gael.
"Fedra i feddwl am rai dyddiau yn ystod yr haf sy'n gyfnod prysur iawn ar yr ynys wrth gwrs, mae o wedi gallu cymryd i fyny i ddwy awr i fynd i neud siwrne o filltir o'r ynys i'r tir mawr.
"'Dan ni bedair blynedd bron i fewn i be' 'swn i'n galw bron yn argyfwng erbyn hyn a dwi ddim yn gwybod be sy'n rhaid i ddigwydd i hyn gael ei ddynodi fel stad o argyfwng ond mae o'n neud i chdi boeni, os fysa 'na rwbath yn y gaeaf, gwyntoedd uchel neu damwain ar Bont Britannia, fysa 'na ddim ffordd i drigolion yr ynys fynd drosodd i'r tir mawr na'r ffordd arall."
Gwaith
Mae atgyweirio'r bont hefyd wedi bod yn ergyd i waith Mr Parry fel therapydd chwaraeon.
"Ma' gen i gwsmeriaid yn dod yma o Wynedd, ag yn bellach i lawr yr A55 ymhell a ma' 'na rhai wedi gorfod gohirio neu ganslo'r apwyntiad sydd wedi effeithio y ffordd dwi'n cyllido'r busnas a'r arian sy'n dod fewn i'r busnas," meddai.
"Mae o'n bedair blynedd a dio ddim yn dderbyniol o un llywodraeth i'r llall bod pethau dal yn mynd yn ei flaen.
"Da ni ddim yn gw'bod pwy sy'n atebol erbyn hyn."
'Ddim yn ddigon da'
Helen Jenner AS yw dirprwy arweinydd Reform UK yng Nghymru, ac mae'n Aelod o'r Senedd dros etholaeth Bangor Conwy Môn.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Dydy o ddim yn ddigon da o gwbl a ma' Plaid Cymru wedi bod ar hyn fel gwrthblaid a'r ffaith bo' nhw ddim wedi cymryd gafael arna fo yn syth bin rŵan bo' nhw mewn pŵer, dydy o ddim yn ddigon da ar ddiwedd y dydd.
"Dan ni isio atebion. Pwy yn union sy'n gyfrifol am y sefyllfa yma? Achos ma'n edrych fel bod y llywodraeth yn trio pasio petha' 'mlaen i bobl eraill.
"Ma' genna ni'r Dirprwy Weinidog Mark Hooper yn deud fydd 'na gyhoeddiad arall yn dod ym mis Hydref. 'Da ni'n cael cyhoeddiadau a pobl yn siarad am y peth ond 'dan ni isio gweld gweithredu, atebion.
"Ma' pobl isio gw'bod be' yn union sy'n mynd i ddigwydd."
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae pobl ar Ynys Môn ac ar draws gogledd Cymru wedi cael eu siomi am lawer rhy hir o ran Pont y Borth, ac mae’r Llywodraeth newydd hon yn benderfynol o fynd i’r afael â’r broblem.
"Cyfarfu’r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth â phartneriaid eto yr wythnos hon a chanfod bod cynnydd da wedi’i wneud o ran cyfathrebu a gorfodi, gyda dim achos o gau’r bont ers pythefnos.
"Mae wedi ymrwymo i wella’r sefyllfa yn y tymor byr, wrth barhau i weithio ar ateb hirdymor. Bydd yn gwneud datganiad yn yr hydref am yr atebion hirdymor.”