Llys yn clywed bod llofrudd o Aberystwyth wedi ei drywanu 25 o weithiau cyn marw
Rhybudd: Fe allai cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai.
Mae rheithgor wedi clywed bod llofrudd merch fach yn Sir Benfro wedi ei drywanu 25 o weithiau yn ei gell ac wedi gwaedu i farwolaeth yn ei wely.
Roedd Kyle Bevan, 33 oed, oedd yn wreiddiol o Aberystwyth, yn treulio dedfryd o garchar am oes am lofruddio Lola James, merch ddwy oed ei bartner, ym mis Gorffennaf 2020.
Dechreuodd achos llys yn erbyn y carcharorion Mark Fellows, 45, Lee Newell, 57, a David Taylor, 64, yn Llys y Goron Leeds yng Ngorllewin Swydd Efrog ddydd Mercher.
Maen nhw wedi eu cyhuddo o lofruddio Bevan yng ngharchar diogelwch uchel HMP Wakefield.
Clywodd y rheithgor fod Bevan yn treulio dedfryd oes gydag isafswm cyfnod o 28 mlynedd yn y carchar.
Dangosodd Jason Pitter KC, ar ran yr erlyniad, luniau teledu cylch cyfyng i’r rheithwyr o Bevan yn mynd i mewn i’w gell ar 4 Tachwedd y llynedd, gyda’r tri diffynnydd yn ei ddilyn.
Dywedodd Mr Pitter eu bod wedi dod allan bedwar munud a 39 eiliad yn ddiweddarach.
Roedd y tri wedi dod allan “mewn hwyliau bodlon, fel bod y gwaith wedi ei wneud," meddai Mr Pitter.
Dywedodd yr erlynydd fod Bevan wedi cael ei roi yn ei wely ar ôl yr ymosodiad, ac na chafodd ei ddarganfod tan y bore canlynol, pan ddaeth i’r amlwg ei fod wedi gwaedu i farwolaeth.
Roedd darn o fetel wedi ei blygu wedi cael ei ddarganfod yn ddiweddarach gyda gwaed Bevan arno, a’i fod wedi cael ei wneud o ddarn o deledu, meddai Mr Pitter.
Dywedodd yr erlynydd fod Bevan “yn cadw ato’i hun” ac y byddai’n aros yn ei gell gan amlaf, gan ofyn yn aml i gael ei gloi y tu mewn.
'Treisgar'
Dywedodd yr erlynydd wrth y rheithgor fod Newell yn treulio dedfryd oes am lofruddiaeth, a’i fod wedi “mynegi casineb tuag at VPs (carcharorion bregus)”.
Roedd Fellows yn treulio dedfrydau oes am ddwy drosedd o lofruddiaeth ac am yr hyn a ddisgrifiodd fel cynllwynio i achosi niwed difrifol iawn, meddai Mr Pitter.
Ychwanegodd fod Fellows wedi gwneud cais ffurfiol i symud o Wakefield ychydig cyn lladd Bevan.
Roedd Taylor hefyd yn garcharor categori A, a’i fod wedi cael ei drosglwyddo i Wakefield yn ddiweddar mewn cysylltiad â llofruddiaeth, trosedd y plediodd yn euog iddi, ac ymgais i lofruddio swyddog heddlu tra’r oedd yn y ddalfa.
Dywedodd yr erlynydd fod Taylor wedi cael ei ddyfarnu’n euog o’r drosedd olaf honno yn ddiweddarach.
Dywedodd Mr Pitter fod Taylor wedi brolio am ei allu i wneud arfau dros dro.
Cafodd rhai eu darganfod wedi eu cuddio mewn cynhwysydd saws tsili yn ei gell, ond nid oedd modd eu cysylltu ag anafiadau Bevan.
Dywedodd yr erlynydd, wrth i Taylor gael ei drosglwyddo allan o Wakefield, fod nyrs yn ei glywed yn gweiddi yng nghyffiniau Newell: “Braf gweithio gyda ti a'r Iceman.”
Dywedodd Mr Pitter mai Iceman oedd llysenw Fellows.
Dywedodd fod Taylor hefyd wedi cyfeirio at Fellows fel y “Wakefield Dexter”, gan ychwanegu: “Cawn weld beth fydd arwyddocâd yr enw hwnnw.”
Disgrifiodd Mr Pitter sut roedd y tri diffynnydd wedi dilyn Bevan i mewn i’w gell ar 4 Tachwedd.
Dywedodd: “Bedwar munud a 39 eiliad yn ddiweddarach, gadawodd y tri cell Bevan gyda’i gilydd, fel pe na bai dim wedi digwydd.
“Ni wnaeth Bevan [adael]. Tra oedd y tri ohonynt yn y gell honno gydag ef, cafodd ei ladd mewn modd treisgar.
“Roedd hynny’n cynnwys ei drywanu a’i anafu, dros 30 o weithiau, gydag o leiaf un arf, ac mae’n debyg mwy nag un arf.
“Roeddent wedi ei adael mewn ffordd oedd yn gwneud iddo ymddangos fel pe bai’n cysgu yn ei wely.”
Dywedodd Mr Pitter: “Fe wnaethant adael fel pe na bai dim wedi digwydd.”
Cafodd yr achos, sydd i fod i bara tair wythnos, ei ohirio tan ddydd Iau.
Mae’r tri diffynnydd yn gwadu llofruddiaeth.

