Llofruddiaethau Lin a Megan Russell: Dau dyst â gwybodaeth newydd

Lin a Megan Russell

Mae dau dyst wedi cysylltu â'r heddlu gan enwi person newydd o dan amheuaeth o lofruddio Lin Russell a'i merch chwech oed Megan yng Nghaint yn 1996. 

Roedd y teulu Russell newydd symud i Gaint o Ddyffryn Nantlle. 

Mae Michael Stone wedi bod o dan glo am 29 mlynedd, ar ol i reithgor ei gael yn euog o ymosod ar Dr Russell a'i merched Megan a Josie gyda morthwyl wrth iddyn nhw gerdded adref o gystadleuaeth nofio ger Caergaint ar 9 Gorffennaf, 1996.

Yn 1998, cafodd Stone ei ddyfarnu'n euog o lofruddio Lin a Megan Russell a cheisio llofruddio Josie a oedd yn naw oed adeg yr ymosodiad. 

Mae e wastad wedi dadlau ei fod yn ddieuog.   

Symudodd Josie Russell yn ôl i Ddyffryn Nantlle, gyda'i thad Shaun wedi'r ymosodiad.  

Mae dau berson bellach wedi rhoi datganiad fel tystion i'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol, yn enwi eu perthynas Raymond Buck fel y llofrudd honedig, yn ôl papur y Sunday Times.

Roedd un o'r tystion newydd, Ross Shields, 39 oed, yn blentyn adeg y llofruddiaethau.

Dywedodd wrth y papur iddo glywed Buck yn cyfaddef i aelod o'r teulu ddiwrnod yr ymosodiadau: “Rydw i wedi gwneud rhywbeth anfaddeuol. Rydw i wedi lladd tri pherson.”

Yn ôl y papur, roedd Rayond Buck yn saer coed, ac roedd ganddo hanes o drais, cyn iddo ladd ei hun yn 2000 pan yn 46 oed. 

DNA

Yn ôl cyfreithwraig Michael Stone, mae'r arolygydd camweinyddu cyfiawnder bellach yn cynnal adolygiad ac yn casglu tystiolaeth DNA newydd. 

Dywedodd Karen Todner: “Rydym yn gobeithio bod pethau o'r diwedd yn symud tua'r cyfeiriad cywir.” 

Eglurodd Ms Todner bod y dystiolaeth newydd ar lafar yn bwysig ond mai'r dystiolaeth bwysicaf yw canlyniad y DNA.  

Mae Michael Stone ac aelod o deulu Raymond Buck ymhlith y rhai a fydd yn cael prawf DNA.

Ychwanegodd Ms Todner: “Os daw'r prawf DNA yn ôl yn gadarnhaol ar gyfer unrhyw un heblaw Michael, yna byddwn yn gofyn i'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol gyfeirio'r mater yn ôl i'r Llys Apêl.   

“Rydym felly yn gobeithio y bydd y sefyllfa'n eglur erbyn diwedd y flwyddyn.”

Dywedodd Ross Shields nad oedd am wneud sylw pellach. 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.