Llid yr ymennydd: Nifer yr achosion wedi cynyddu eto

Ciw i gael brechlyn llid yr ymennydd

Mae nifer yr achosion o lid yr ymennydd sy’n gysylltiedig â’r achos ym Mhrifysgol Caint yn ne Lloegr wedi cynyddu eto.

Cyhoeddodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU bum achos newydd o lid yr ymennydd fore Mercher, gan godi cyfanswm y nifer sy’n cael eu harchwilio gan swyddogion iechyd i 20 - ond mae'r ffigwr hwnnw bellach wedi cynyddu i 27.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes wedi annog myfyrwyr y brifysgol, sydd wedi dychwelyd adref i Gymru, i gysylltu â'u meddyg teulu am wrthfiotigau.

Daw hyn ar ôl i un disgybl ysgol ac un myfyriwr prifysgol farw, ac i 18 achos arall gael eu harchwilio gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, gyda rhai pobl ifanc wedi cael eu rhoi mewn coma artiffisial.

Dywedodd yr Athro Robin May, prif swyddog gwyddonol Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU ei fod yn “achos anarferol iawn”.

Wrth siarad â BBC Breakfast, dywedodd yr Athro May bod yr achos yn gysylltiedig â chlwb nos yng Nghaergaint.

“Yr hyn sy’n arbennig o drawiadol ac annisgwyl am yr achos hwn yw’r nifer fawr o achosion sydd i gyd yn tarddu o’r hyn sy’n ymddangos fel un digwyddiad,” meddai.

“Mae dau reswm posibl am hynny. Un yw y gallai fod yn rhywbeth yn ymwneud ag ymddygiad unigolion.

“Y posibilrwydd arall yw bod y bacteria ei hun wedi datblygu a’i fod bellach yn well am ledaenu.”

Hyd yn hyn, mae 600 o frechlynnau meningitis B wedi cael eu rhoi ym Mhrifysgol Caint ar ôl i gannoedd o fyfyrwyr ymuno â chiw y tu allan i ganolfan chwaraeon y campws.

Bydd angen i’r rhai sydd wedi cael y pigiad ddychwelyd am eu hail ddos ar ôl pedair wythnos.

Mae tua 5,000 o fyfyrwyr sy’n byw ar gampws y brifysgol yn gymwys i gael y pigiad,.

Dywedodd Wendi Shepherd, dirprwy gyfarwyddwr diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru, eu bod yn gweithio gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU.

"Wrth i fyfyrwyr o Brifysgol Caint ddychwelyd adref, mae'n bwysig eu bod yn cael mynediad at wrthfiotigau ataliol os ydynt yn gymwys, er mwyn amddiffyn eu hunain ac i atal unrhyw drosglwyddiad i eraill," meddai.

"Rydym yn gweithio gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU i nodi pobl a allai fod yn gymwys i gael eu brechu."

Symptomau llid yr ymennydd

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae brechu’n "ddull allweddol" o amddiffyn rhag llid yr ymennydd.

Os cafodd plentyn ei eni ar neu ar ôl 1 Medi 2015, bydd wedi cael cynnig brechiad yn erbyn llid yr ymennydd B fel rhan o'r rhaglen imiwneiddio reolaidd i blant. 

Mae brechiad erbyn llid yr ymennydd math A, C, W ac Y yn cael ei chynnig i bobl ifanc tua 13/14 oed, ond mae modd rhoi brechiad i fyny hyd at 25 oed. 

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru nad yw brechu’n amddiffyn rhag pob straen llid yr ymennydd.

"Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau llid yr ymennydd, gan y gall waethygu'n gyflym. Gall diagnosis cynnar a thriniaeth gyda gwrthfiotigau wella canlyniadau'n sylweddol," meddai.

Mae symptomau cynnar, nad ydynt bob amser yn bresennol, yn cynnwys:

 Twymyn

Pen tost / Cur pen difrifol

·             Chwydu

·             Gwddf stiff

·             Ddim yn hoffi goleuadau llachar

·             Brech nad yw'n pylu pan gaiff ei wasgu â gwydr

·             Dryswch

·             Bod yn gysglyd iawn neu'n anodd deffro

·             Trawiadau neu ffitiau

Llun: Ciw yng Nghaint am frechlyn llid yr ymennydd. Llun gan PA / Gareth Fuller.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.