Jonathan Davies yn cipio tlws Dysgwr y Flwyddyn
Jonathan Davies sydd wedi dod yn fuddugol yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni.
Cafodd ei anrhydeddu mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Mercher.
Y tri arall a ddaeth i’r brig oedd, Caroline Jones o Wynedd, Kierion Lloyd o ardal Wrecsam a Paige Morgan o’r UDA.
Cychwynnodd Jonathan, sydd o Lwchwr ger Abertawe, ddysgu Cymraeg er mwyn ailgysylltu â’i dreftadaeth a’i hunaniaeth ar ôl byw yn Llundain.
Astudiodd Gerddoriaeth yno, gan gwblhau gradd a gradd meistr cyn hyfforddi fel athro drwy gwrs TAR.
Yn 2020 dechreuodd ddysgu Cymraeg, gan wneud cynnydd cyflym a dod yn siaradwr Cymraeg hyderus.
Trosglwyddodd ei sgiliau fel athro a chyfathrebwr yn naturiol i’w iaith newydd.
Aeth ymlaen i ddechrau PhD ym maes Ieithyddiaeth ac Addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ganolbwyntio ar hygyrchedd mewn addysg.
Mae’n hwyluso grŵp dysgwyr ifanc, yn dysgu ysgrifennu creadigol, ac yn sylfaenydd podlediad Ymchwil y Gweilch.
Mae hefyd yn rhan o dîm sy'n datblygu offeryn dwyieithog i asesu hygyrchedd testun.
Derbyniodd Jonathan Dlws Dysgwr y Flwyddyn, yn rhoddedig gan Gymdeithas Waldo, a £300, yn rhoddedig gan Geraint a Siân James, Siop Awen Teifi, Aberteifi.
Derbyniodd y tri arall yn y rownd derfynol £100 yr un.
Beirniaid y gystadleuaeth oedd Karl Davies, Kevin Knox a Miriain Iwerydd.