John Gizzi yn pledio'n euog i reoli ei bartner a thagu ei chwaer
Mae dyn 55 oed o Sir Ddinbych wedi pledio’n euog i gyhuddiad o ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol yn erbyn ei bartner.
Fe wnaeth John Gizzi, o Lon Cwttir yn Llanelwy, hefyd gyfaddef tagu chwaer ei bartner yn fwriadol.
Mae’r cyhuddiad o ymddygiad sy’n rheoli ac yn gorfodi tuag at ei bartner, Natasha Farah, hefyd yn cynnwys honiadau ei fod wedi ymosod arni dro ar ôl tro.
Fe wnaeth hefyd fethu â darparu cyfrinair i'r heddlu i ddatgloi ffôn symudol.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mawrth, fe awgrymodd y Barnwr Simon Mills y gallai Gizzi gael gostyngiad yn hyd ei ddedfryd am bledio'n euog.
Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa tan iddo gael ei ddedfrydu ar 12 Tachwedd.
Mae tudalen GoFundMe yn dweud ei bod hi wedi bod mewn gofal dwys ar ôl dioddef "anaf difrifol iawn".