Joe Cordina: Llys yn clywed bod y bocsiwr wedi taro dyn 'yn reddfol'
Fe glywodd llys fod y bocsiwr o Gaerdydd, Joe Cordina, wedi honni iddo daro dyn arall "yn reddfol" yn ystod ffrae y tu allan i orsaf betrol.
Mae Mr Cordina, 34 oed, sydd wedi ennill teitl pencampwr byd yr IBF ddwywaith, yn gwadu dau gyhuddiad o ymosod ar Jamie O'Brien, 33 oed.
Clywodd Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth fod y ffrae wedi digwydd y tu allan i Orsaf Betrol Pentwyn yn y brifddinas ar 27 Chwefror eleni.
Roedd Joe Cordina wedi bod yn llenwi ei Land Rover â thanwydd cyn mynd at Mr O'Brien, oedd yn eistedd ar y palmant ger allanfa'r orsaf.
Roedd lluniau CCTV a gafodd eu dangos yn y llys yn dangos Mr O'Brien yn gwthio Joe Cordina â'i ysgwydd, cyn i'r bocsiwr ei daro â'i ddwrn "gyda digon o rym i'w fwrw i'r llawr."
Wrth gyflwyno achos yr erlyniad, dywedodd Alex Orndal mai Mr Cordina oedd wedi dechrau'r gwrthdaro rhwng y ddau.
"Roedd dwylo Mr O'Brien yn ei bocedi ac nid oedd yn fygythiad," meddai.
Clywodd y llys fod y ddau ddyn wedi parhau i ddadlau a chyfnewid ergydion.
Yn ôl yr erlyniad, roedd Mr O'Brien wedi cael ei ddal yn ôl gan rywun arall, ac nid oedd bellach yn fygythiad i Joe Cordina.
Ond fe symudodd Mr Cordina o amgylch y person oedd yn dal Mr O'Brien a'i daro â'i ddwrn unwaith eto, yn ôl Mr Orndal.
Dyma'r digwyddiad sy'n sail i'r ail gyhuddiad o ymosod yn ei erbyn.
Dywedodd Mr Orndal fod gweithredoedd Mr Cordina wedi mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n cael ei ganiatáu gan y gyfraith wrth amddiffyn eich hun.
Yn ôl yr erlyniad, dadl Joe Cordina yw ei fod wedi taro Mr O'Brien yn y lle cyntaf am ei fod yn teimlo dan fygythiad.
Mae hefyd yn honni iddo daro Mr O'Brien eto yn ddiweddarach "yn reddfol" oherwydd gweithredoedd Mr O'Brien.
Dechreuodd yr heddlu ymchwilio i'r digwyddiad ar ôl i luniau o'r ffrae gael eu rhannu ar-lein.
Mae'r achos yn parhau.