Jess Phillips: 'Ni ddylai Starmer barhau'n arweinydd os oes cystadleuaeth'
Mae cyn-weinidog y cabinet wedi dweud na ddylai Syr Keir Starmer frwydro i barhau yn arweinydd ar y Blaid Lafur os oes ras am yr arweinyddiaeth am fod.
Roedd Ms Phillips yn un o nifer o weinidogion a wnaeth ymddiswyddo o gabinet Syr Keir Starmer yr wythnos diwethaf.
Ymddiswyddodd fel Gweinidog Diogelu Llywodraeth y DU, gan ddweud ei bod yn credu bod Syr Keir yn “ddyn da” ond nad yw hynny’n “ddigon”.
Dywedodd ddydd Sul ei bod yn credu y dylai fod yna ras arweinyddiaeth, ond pan ofynnwyd iddi a ddylai Syr Keir Starmer sefyll, dywedodd yn syml: “Yn fy marn i, na.”
Daeth cadarnhad ddydd Gwener y bydd Andy Burnam yn cael ei gynnwys gan y baid ar y rhestr o ymgeiswyr posib ar gyfer isetholiad Makerfield.
Dywedodd Burnham, sydd yn Faer Manceinion, ei fod wedi ceisio caniatâd Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur i sefyll yn yr isetholiad wedi i Josh Simons, AS Llafur Makerfield, ddweud y byddai'n ymddiswyddo fel y gall Mr Burnham "yrru'r newid y mae ein gwlad yn gweiddi amdano".
Mae corff rheoli Llafur, y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol, wedi rhoi caniatâd i Mr Burnham sefyll.
Mae Mr Simons wedi gwadu adroddiadau ei fod wedi penderfynu camu i lawr flwyddyn yn ôl.
Roedd adroddiadau ei fod wedi bod yn ystyried cefnogi Andy Burnham yn gyhoeddus i fod yn Brif Weinidog 12 mis yn ôl, ond mae wedi mynnu ei fod wedi gwneud y penderfyniad yr wythnos hôn ar ôl trafod gyda'i wraig.
Yn y cyfamser, mae'r Ysgrifennydd Diwylliant Lisa Nandy wedi beirniadu'r holl ddyfalu am gystadleuaeth arweinyddiaeth Llafur fel “nonsens”.
Wrth gael ei holi ddydd Sul os yr oedd hi'n meddwl y byddai Syr Keir yn gadael Rhif 10 erbyn yr haf, dywedodd Lisa Nandy nad oedd hi'n credu y byddai hynny yn digwydd.
Ychwanegodd: "Dwi wedi siarad â'r Prif Weinidog sawl gwaith dros yr wythnos diwethaf ac roedd yn glir iawn ddydd Mawrth fod proses os oedd pobl eisiau ei herio, a bod ffordd o sbarduno cystadleuaeth arweinyddiaeth, i fod yn arweinydd y Blaid Lafur ac i’w olynu fel Prif Weinidog."
Mae'r cyn-Ysgrifennydd Iechyd Wes Streeting wedi cadarnhau y byddai'n sefyll pe bai yna ras am yr arweinyddiaeth.
Ymhlith yr enwau eraill allai herio'r Prif Weinidog mae’r cyn Ddirprwy Brif Weinidog Angela Rayner, yr Ysgrifennydd Ynni a chyn-arweinydd y blaid Ed Miliband a’r gweinidog lluoedd arfog Al Carns.
