Jeffrey Donaldson, cyn-arweinydd y DUP, wedi'i garcharu am 15 mlynedd am droseddau rhyw
Mae cyn-arweinydd y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd (DUP) yng Ngogledd Iwerddon, Jeffrey Donaldson, wedi cael ei ddedfrydu i 15 mlynedd o garchar am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn dwy ddynes pan oedden nhw'n blant.
Cafodd Donaldson, sy'n 63 oed, ei ddedfrydu yn Llys y Goron yn Newry ddydd Iau, ar ôl iddo gael ei ddyfarnu'n euog o 18 trosedd rhyw ym mis Mehefin, gan gynnwys un achos o dreisio.
Cafodd ei ddedfrydu i 11 mlynedd o garchar am y troseddau yn erbyn un ddynes a phedair blynedd am y troseddau yn erbyn y llall, gyda'r dedfrydau i'w cyflawni un ar ôl y llall.
Mewn datganiad yn dilyn y ddedfryd, fe wnaeth plaid y DUP gondemnio troseddau ei chyn-arweinydd, gan ddweud ei fod yn "haeddu pob diwrnod" o'i ddedfryd.
"Mae cyfiawnder wedi ei wneud heddiw gyda dedfryd Jeffrey Donaldson am ei droseddau ffiaidd yn erbyn ei ddioddefwyr," meddai'r blaid.
Ychwanegodd y DUP mai'r dioddefwyr oedd yn dod gyntaf i'w meddyliau, ar ôl iddyn nhw orfod ail-fyw eu profiadau wrth roi tystiolaeth yn y llys.
"Waeth beth fo statws neu safle unigolyn, rhaid i bawb fod yn atebol am eu gweithredoedd," meddai'r DUP.
Sylwadau'r barnwr
Wrth gyhoeddi'r ddedfryd, fe wnaeth y Barnwr Paul Ramsey feirniadu Donaldson am barhau i wadu'r troseddau er iddo gael ei ddyfarnu'n euog.
Yn ôl y barnwr, doedd Donaldson ddim wedi dangos unrhyw edifeirwch, ac doedd ddim yn disgwyl y byddai'n ymddiheuro i'w ddioddefwyr.
Fe nododd y barnwr hefyd fod asesiad wedi dangos bod tebygolrwydd canolig y byddai Donaldson yn aildroseddu.
Wrth grynhoi datganiadau'r dioddefwyr am effaith y troseddau, fe eglurodd y barnwr fod un o'r merched wedi dioddef trawma yn sgil proses yr achos llys.
Roedd hi wedi tyfu i fyny yn teimlo cywilydd ac yn teimlo'n fudr oherwydd yr hyn a ddigwyddodd iddi, ac wedi disgrifio'r blynyddoedd diwethaf fel "hunllef fyw".
Roedd yr ail ddynes wedi dweud ei bod yn gweddïo ar Dduw bob dydd i adael iddi farw.
Y troseddau
Cafodd Donaldson ei ddyfarnu'n euog ym mis Mehefin o 18 trosedd rhyw, gan gynnwys un achos o dreisio, 13 achos o ymosod yn anweddus a phedwar achos o anwedduster difrifol.
Digwyddodd y troseddau rhwng 1985 a 2008, yn erbyn dwy ferch oedd yn blant ar y pryd.
Yn ystod yr achos, fe glywodd y llys dystiolaeth gan y ddwy ddynes, sydd bellach yn oedolion.
Rhoddodd un ohonyn nhw dystiolaeth am Donaldson yn ei chyffwrdd a'i chusanu'n amhriodol, ac am achlysur pan ddefnyddiodd olau i archwilio ei horganau cenhedlu.
Fe glywodd y llys dystiolaeth gan yr ail ddynes ei bod wedi cael ei threisio gan Donaldson pan oedd hi'n blentyn oed ysgol gynradd, cyn iddo ymosod arni'n rhywiol eto yn ddiweddarach.
Roedd Donaldson wedi gwadu'r holl gyhuddiadau.
Ers iddo gael ei ddyfarnu'n euog, mae wedi colli ei urdd farchog - a'i deitl 'Syr' - ac wedi cael ei ddiarddel o'r Cyfrin Gyngor, neu'r Privy Council.
Mae ei gyfreithwyr wedi cadarnhau eu bod wedi cyflwyno apêl yn erbyn ei euogfarnau.
Achos Eleanor Donaldson
Fe ddaeth rheithgor i'r casgliad fod ei wraig, Eleanor Donaldson, sy'n 60 oed, wedi helpu ei gŵr i gyflawni rhai o'r troseddau, a'i bod wedi cyflawni gweithred o greulondeb tuag at blentyn.
Oherwydd pryderon am ei hiechyd meddwl, cynhaliwyd gwrandawiad arbennig i benderfynu ar y ffeithiau yn hytrach nag achos troseddol arferol.
Nid oedd y gwrandawiad hwnnw'n gallu arwain at euogfarn droseddol, ac ni ellir ei dedfrydu i garchar.
Fe allai'r barnwr osod gorchymyn triniaeth neu oruchwyliaeth arni, neu benderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach yn ei herbyn.
Mae disgwyl i'r barnwr benderfynu ar hyn ar 13 Tachwedd, ar ôl ystyried adroddiadau meddygol.
Mae cyfreithwyr Eleanor Donaldson hefyd wedi cyflwyno cais am ganiatâd i apelio yn erbyn canlyniad ei gwrandawiad.