Jamie Miller yw'r artist Cymreig cyntaf mewn 15 mlynedd i gyrraedd brig y siartiau

Jamie Miller
Jamie Miller
Mae'r canwr a'r cyfansoddwr o Gaerdydd, Jamie Miller, yn dathlu ar ôl cyrraedd brig Siart Senglau'r DU gyda'i gân Babydoll. 
 
Dyma'r tro cyntaf i artist o Gymru gyrraedd Rhif Un ers 15 mlynedd. 
 
Siân Evans gyrhaeddodd y brig bryd hynny, gyda'i chân Louder yn 2011. 
 
Miller yw'r artist gwrywaidd cyntaf o Gymru i wneud hynny ers Shakin' Stevens yn 1985, pan gyrhaeddodd e'r brig gyda'i gân Nadoligaidd, Merry Christmas Everyone.
 
Dywedodd y cerddor 29 oed o Bontprennau, Caerdydd: "Dydw i ddim yn gwybod be' i'w ddweud ag eithrio diolch yn fawr iawn am sicrhau fy mod yn cyrraedd rhif un. 
 
"Dyma'r peth mwyaf sydd erioed wedi digwydd i fi yn fy mywyd."
 

Cafodd y gân ei chyhoeddi fis Awst ac mae hi wedi esgyn yn raddol i frig y siartiau wedi i Jamie Miller gyhoeddi fersiwn newydd gydag Antonio Cipriano.

Fe aeth y gân yn feiral ar-lein, gyda phobl yn ymuno â dawns Babydoll.

Dechreuodd gyrfa Jamie Miller bron ddegawd yn ôl pan roedd yn 19 oed, ar ôl iddo ddod yn drydydd yn chweched cyfres The Voice UK yn 2017.   

Mae'r cerddor bellach yn byw yn Los Angeles. 

Llun: Nurphoto via Reuters

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.