Jamie Miller: 'Ro’n i’n rhy swil i ganu mewn eisteddfod'

Jamie Miller: 'Ro’n i’n rhy swil i ganu mewn eisteddfod'

Mae’r canwr Jamie Miller wedi dweud ei fod yn arfer bod yn rhy swil i ganu yn eisteddfod ei ysgol yng Nghaerdydd.

Bellach, Jamie Miller yw’r artist cyntaf o Gymru i gyrraedd brig siart senglau’r DU ers 15 mlynedd gyda’i gân Babydoll, ar ôl i’r gân fynd yn feiral ar TikTok.

Wrth siarad ag S4C, dywedodd y canwr o Gaerdydd ei fod bellach yn fwy hyderus nag yr oedd yn ei ddyddiau ysgol.

“Ro’n i’n rhy nerfus i fod yn yr Eisteddfod yn yr ysgol,” meddai’r cyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Corpus Christi yn Llys-faen.

“Yn yr ysgol uwchradd yn enwedig, ro’n i wir yn dal fy hun yn ôl oherwydd ro’n i’n poeni gormod am beth fyddai pobl yn ei feddwl ohona i.”

Dywedodd ei fod yn teimlo bod bod yn ganwr neu’n gerddor yn yr ysgol yn fwy derbyniol erbyn hyn nag yr oedd pan oedd ef yn ddisgybl.

Ond er gwaethaf ei nerfau roedd yn gwybod o oedran ifanc ei fod eisiau dilyn gyrfa mewn cerddoriaeth.

“Do’n i erioed yn un am chwaraeon,” meddai.

“Roedd fy ffrindiau i gyd yn chwarae rygbi a phêl-droed, ond ro’n i wrth fy modd â cherddoriaeth. Ro’n i wrth fy modd yn canu ac yn dawnsio.

“Doedd gen i ddim ‘cynllun B’ wrth dyfu i fyny.”

Cyn ei lwyddiant, roedd yn arfer bysgio ar strydoedd Abertawe yn y gobaith y byddai rhywun yn sylwi arno, meddai.

Mae wedi bod yn byw yn America ers naw mlynedd, ond dywedodd fod dod adref a chael croeso gan ei deulu a’i ffrindiau wedi bod yn brofiad arbennig.

Roedd yn cytuno â disgrifiad Matthew Rhys o Gymru fel “cenedl fach ond nerthol”.

“Mae’n deimlad hollol wallgof gallu gwneud cyfweliad, hyd yn oed gydag S4C, dw i wrth fy modd ag S4C, chi'n gwybod!” meddai.

“Mae’r cyfan yn wallgof, does dim byd yn teimlo’n real, a dw i’n pinsio fy hun bob dydd ac yn ddiolchgar iawn, iawn.”

Ychwanegodd: “Mae’n wych cael dod yn ôl fel artist hyderus a chael rhif un yng Nghymru.

“Fy nheulu i yw’r teulu mwyaf cefnogol yn y byd i gyd, ac mae’r holl gariad dw i’n ei gael gan ffrindiau hefyd wedi bod yn anhygoel.”

Neges gan Tom Jones

Ymhlith y rhai sydd wedi cysylltu ag ef mae ei gyd-Gymro Tom Jones.

“Ges i neges gan Tom Jones y diwrnod o’r blaen! Tom Jones a’i steilydd,” meddai.

“Roedd yn dweud ei fod yn falch iawn ohona i a’i fod yn meddwl fy mod i’n anhygoel!”

Ychwanegodd y byddai cael gwneud unrhyw beth gyda Tom Jones yn brofiad arbennig.

Mae cynlluniau hefyd ar y gweill iddo berfformio yng Nghymru, gyda’r gobaith y bydd yn gallu dychwelyd rhwng dechrau a chanol 2027.

‘Byddwch yn chi eich hunain’

Ei gyngor i bobl ifanc yng Nghymru sydd am ddilyn gyrfa debyg yw bod yn nhw eu hunain a breuddwydio’n fawr.

“Am gymaint o amser do’n i ddim yn bod yn fi fy hun, a dw i’n teimlo fy mod i, am y tro cyntaf erioed gyda fy ngherddoriaeth, yn cael hwyl ac yn arbrofi gyda fy ngherddoriaeth a fy steil,” meddai.

“Does dim ots os ydych chi’n dod o Gaerdydd, does dim ots o ble rydych chi’n dod. Gallwch chi wneud unrhyw beth rydych chi’n rhoi eich meddwl iddo.

“Efallai y bydd yn cymryd amser, ond fe fyddwch chi’n cyrraedd yno mewn rhyw ffordd.”

Dywedodd fod y gyfres o gyfweliadau yn y DU ac Ewrop wedi teimlo “fel corwynt”.

“Dyma’r teimlad mwyaf gwallgof dw i erioed wedi’i gael yn fy mywyd,” meddai.

“Wnes i erioed feddwl y gallai hyn ddigwydd i mi. Mae wedi bod fel corwynt, yn gwneud yr holl gyfweliadau anhygoel yma yn y DU ac Ewrop.

“A wnes i erioed ddychmygu, hyd yn oed yn fy mreuddwydion mwyaf gwyllt, y gallai hyn ddigwydd i rywun fel fi.

“Felly dw i’n wirioneddol, wirioneddol ddiolchgar.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.